Prifysgol yn ennill sgôr uchel eto am ansawdd bywyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol ABERTAWE wedi sgorio’n uchel mewn canllaw arall i fyfyrwyr – y tro hwn am ansawdd bywyd a llety sy’n rhoi gwerth da am arian.

Fe wnaeth arolwg Ansawdd Bywyd Myfyrwyr Banc Lloyds osod Abertawe yn y 14eg safle ymhlith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.  Roedd yr arolwg yn edrych ar feysydd fel boddhad â chyrsiau, cyflogaeth ac enillion graddedigion, bywyd cymdeithasol a chyfleusterau chwaraeon.

Ystafelloedd i’w rhentu’n breifat yn y ddinas oedd y rhataf yn yr arolwg, gyda chost gyfartalog flynyddol o £2,250.  Yr ystafelloedd drytaf oedd rhai yn ardal Ysgol Economeg Llundain oedd â chost o £7,000.

Daeth llety sy’n berchen i Brifysgol Abertawe yn ail yn ei chategori gyda chost gyfartalog o £2,500 y flwyddyn.

Gosodwyd y brifysgol yn y seithfed safle yn y categori bywyd cymdeithasol gorau i fyfyrwyr.

Prifysgol Loughborough ddaeth i’r brig yn y rhestr gyffredinol.  Prifysgol Caerfaddon aeth â’r ail safle gyda Phrifysgol Durham yn drydydd.