Prifysgol yn croesawu Llysgennad yr Emiraethau Arabaidd Unedig

Heddiw (Mercher 29 Ionawr), mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu ymweliad gan gynrychiolwyr Llysgenhadaeth yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn Llundain, gan gynnwys y Llysgennad, Ei Ardderchowgrwydd Mr Abdulrahman Ghanem Almutaiwee.

UAE Ambassador visit Cafodd y cynrychiolwyr, oedd hefyd yn cynnwys Ei Uchelder Shaikh Mohammed Bin Maktoum Bin Rashed Al Maktoum, sy'n Brif Ysgrifennydd a Phennaeth yr Adran Economaidd, a Miss Sara al Mahri, Pennaeth yr Adran Addysg, eu croesawu i'r campws gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies.

Trefnwyd yr ymweliad gan Adran Materion Ewropeaidd ac Allanol Llywodraeth Cymru, a chafodd y cynrychiolwyr gyflwyniadau gan yr Athro Iwan Davies, y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Rhyngwladoli a Materion Allanol, ar ddatblygu Campws y Bae a phartneriaethau gyda diwydiant; gan Michael Rees, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr; gan yr Athro Nidal Hilal o'r Coleg Peirianneg, sy'n Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwch Dechnolegau Dŵr ac Ymchwil Amgylcheddol, ac yn Gyn-profost Dros Dro Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Masdar; a chan Emma Frearson Emmanuel, Pennaeth y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol. 

Hefyd, cafodd y cynrychiolwyr daith o gwmpas y Coleg Peirianneg, a bu iddynt gwrdd â rhai o'r myfyrwyr o'r Emiraethau Arabaidd Unedig sy'n astudio yn Abertawe.