Prifysgol Abertawe yn cynnal cynhadledd cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus i fyfyrwyr chweched dosbarth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Academi Hywel Teifi, dan nawdd Y Fonesig Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad, gynhadledd ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg blynyddoedd 12 a 13 yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Yn ystod y digwyddiad, cynhaliwyd gweithdai ymarferol i ddisgyblion, sgyrsiau anffurfiol a thrafodaethau gan amryw siaradwr gwadd adnabyddus o feysydd gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus, ynghyd ag academyddion o Brifysgolion Abertawe, Caerdydd ac Aberystwyth.

Roedd y panel o arbenigwyr yn cynnwys:

  • Elliw Gwawr (Cadeirydd) - Gohebydd San Steffan, BBC Cymru
  • Nerys Evans - Cyfarwyddwr cwmni cyfathrebu Deryn
  • Bethan Jenkins AC - Aelod Cynulliad Rhanbarthol (Plaid Cymru) Gorllewin De Cymru
  • Owain Phillips - Gohebydd ITV Wales
  • Owain Schiavone  - Cyfarwyddwr Golwg360

Pwy Piau'r Newyddion?Llun: Y panel o arbenigwyr 

Drwy ddadansoddi’r ffordd y mae’r agenda newyddion beunyddiol yn cael ei hadeiladu, y nod oedd canfod natur y berthynas symbiotig sy’n bodoli rhwng gwleidyddion, newyddiadurwyr a’r diwydiant cysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru, a’r modd y mae’r cydweithrediad a’r gwrthdaro cynhenid rhyngddynt yn adeiladu agenda newyddion y diwrnod.

Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr edrych ar y ffyrdd mae newyddiadurwyr yn dod o hyd i’w straeon heddiw,  a holi pa effaith mae blogwyr a’r cyfryngau cymdeithasol yn ei chael ar ddemocratiaeth yng Nghymru. Wrth i'r nifer ohonom sydd yn derbyn eu penawdau newyddion o ar draws y ffin gynyddu, pa effaith mae hyn yn cael ar gyfathrebu yn y Gymru ddatganoledig?

Ysgol Gyfun Bryn Tawe ‌Llun: Y panel o arbenigwyr gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Meddai Iwan Williams, Darlithydd y Coleg Cymraeg yn y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, Prifysgol Abertawe: “Nod y gynhadledd oedd ennyn dealltwriaeth myfyrwyr o’r broses o hyrwyddo a hidlo straeon newyddion, ac hefyd rhoi agoriad llygad i fyfyrwyr o’r llwybrau gyrfa posib sydd yn agored iddynt - o newyddiaduriaeth i wleidyddiaeth, ac o gysylltiadau cyhoeddus i lobïo.”  

Meddai’r Fonesig Rosemary Butler AC: “Mae’r cyfryngau yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cysylltu â phobl Cymru.

“Rwyf wedi bod yn cynnal ymgyrch dros y ddwy flynedd ddiwethaf dan y teitl ‘Mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd yng Nghymru’, sy'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem rydym yn ei hwynebu lle mae llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu newyddion a’u gwybodaeth am faterion cyfoes drwy lwyfannau cyfryngau yn y Deyrnas Unedig, nad ydyn nhw’n aml yn cyfleu’n briodol y gwahaniaethau polisi enfawr yng Nghymru i’w cynulleidfaoedd yng Nghymru.

“Mae prosiect fel hwn sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Abertawe yn chwarae rhan bwysig wrth addysgu'r genhedlaeth nesaf o dalent newyddiadurol Gymreig bod angen iddynt sicrhau bod yr agenda newyddion yng Nghymru, a gwaith y Cynulliad yn arbennig, yn cael eu cynnwys yn briodol os ydynt yn gweithio i sefydliad cyfryngau Prydeinig neu Gymraeg. "