Pennaeth y Coleg Peirianneg yn cael ei anrhydeddu â gwobr fawreddog

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro Javier Bonet, pennaeth Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi cael gwobr fawreddog fel cydnabyddiaeth o’i waith yn y maes dulliau rhifiadol a’i gymwysiadau.

Professor Javier Bonet

Mae’r Athro Bonet wedi ennill Gwobr Dulliau Rhifiadol mewn Peirianneg y Gymdeithas Sbaenaidd (SEMNI).  Mae’r wobr hon yn cael ei chyflwyno unwaith bob dwy flynedd, a hon yw’r wobr uchaf sy’n cael ei rhoi gan y gymdeithas.

Meddai’r Athro Perumal Nithiarasu, pennaeth Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadurol (ZCCE) Prifysgol Abertawe:  “Ar ran pawb yn y ZCCE, hoffwn longyfarch yr Athro Bonet ar ennill y wobr hon gan y Pwyllgor SEMNI.  Cafodd ei anrhydeddu â’r wobr fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad aruthrol i’r maes hwn mewn amrywiaeth o bynciau ymchwil gan gynnwys elfen derfynedig technoleg, ffurfio uwch blastig, amcangyfrif cyfeiliornad, y ddamcaniaeth terfyn a dulliau di-rwyll, i enwi dim ond ychydig.”

Meddai’r Athro Richard B. Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:  “Mae’r Athro Bonet yn ymchwilydd rhagorol sydd wedi helpu Prifysgol Abertawe i aros ar flaen y gad yn rhyngwladol yn y maes dulliau rhifiadol ar gyfer dylunio peirianneg.  Y mae hefyd yn arweinydd academaidd brwdfrydig a diwyd sydd, fel Pennaeth y Coleg Peirianneg, wedi llywio peirianneg drwy gyfnod cyffrous o dwf.  Ef sy’n cynllunio’r symud i’r Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd, lle bydd cyfleusterau modern a phwrpasol.  Rydym yn ei longyfarch ar ennill y wobr hon, sy’n haeddiannol iawn.”