Myfyrwyr yn pleidleisio Prifysgol Abertawe fel y Brifysgol Orau yn y DU yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Pleidleisiwyd Prifysgol Abertawe fel y Brifysgol Orau yn y DU ym mhrif gategori Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni.com 2014.

Wedi'i henwebu mewn tri chategori arall hefyd, daeth Prifysgol Abertawe'n ail yn y DU yn y categorïau 'Cyrsiau a Darlithwyr' ac 'Undeb y Myfyrwyr', ac yn drydydd yn y categori 'Clybiau a Chymdeithasau'.

Meddai'r Athro Alan Speight, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Rydym yn hynod falch bod myfyrwyr y DU wedi pleidleisio dros Brifysgol Abertawe fel y Brifysgol Orau yn y DU. Mae myfyrwyr yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae Prifysgol Abertawe yn ymroddedig i ddarparu profiad ardderchog i fyfyrwyr, ac mae cael cydnabyddiaeth gan gynifer o fyfyrwyr yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni.com yn y categorïau mawr hyn yn adlewyrchu ein hymroddiad i ragoriaeth y profiad dysgu a'r amgylchedd cefnogol a ddarparwn i'n myfyrwyr."

"Mae gwobr WhatUni.com yn arddangos bod y gwelliannau mewn bodlonrwydd myfyrwyr yn gyffredinol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mewn cydweithrediad â'n myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr wedi rhoi manteision go iawn i'n myfyrwyr o ran eu profiad wrth astudio yn Abertawe.

"Rydym wedi ennill yr anrhydedd arbennig hwn fel y Brifysgol Orau drwy wrando ar ein myfyrwyr a gweithio mewn partneriaeth â hwy, y maent yn chwarae rôl allweddol wrth i ni gynllunio a darparu gwelliannau parhaus, felly rydym yn hynod falch bod Prifysgol Abertawe wedi'i raddio mor uchel yn y gwobrau hyn."

Yn gynharach yr wythnos hon, dangosodd Complete University Guide 2015, sydd newydd ei gyhoeddi, fod Abertawe ymhlith yr ugain o brifysgolion gorau mewn amrywiaeth o bynciau, o beirianneg a thechnoleg feddygol i waith cymdeithasol, gan ei rhoi ymhlith prifysgolion blaenllaw'r DU.

Yn Complete University Guide 2015, cododd Abertawe yn y safleoedd cyffredinol o 48 i 42  allan o 127 o brifysgolion yn y DU a restrir. Mae Complete University Guide yn arweiniad annibynnol sy'n dadansoddi prifysgolion ar draws y DU, yn edrych ar feysydd megis rhagolygon graddedigion, bodlonrwydd myfyrwyr a gwariant am bob myfyriwr.

Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe,

"Mae'r canlyniadau ardderchog hyn yn galonogol iawn, sy'n dilyn ein llwyddiannau mewn amrywiaeth o dablau cynghrair prifysgolion byd-eang proffil uchel, megis QS Starts, a roddodd bum seren i Brifysgol Abertawe am ryngwladoli, addysgu, cyfleusterau ac ymgysylltu, ac mae'r Brifysgol wedi parhau i symud i fyny i ugain o brifysgolion gorau'r DU o ran cyflogadwyedd – un o'r canlyniadau pwysicaf a mwyaf perthnasol i fyfyrwyr."

"Mae'r gwobrau hyn yn fesur adnabyddadwy o'n perfformiad a'n henw da. Maent yn dangos bod Abertawe, sy’n sefydliad uchelgeisiol a arweinir gan ymchwil lle y ceir addysgu o’r radd flaenaf, yn lle ardderchog i astudio i fyfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol."