Myfyrwraig ragorol o Brifysgol Abertawe wedi’i dewis ar gyfer cynhadledd y Cenhedloedd Unedig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwraig israddedig yn y Gyfraith o Brifysgol Abertawe, Jood Alharthi, wedi’i dewis i fynychu cynhadledd ryngwladol Model y Cenhedloedd Unedig yn Genefa (GIMUN) yn nes ymlaen y mis hwn. Bydd Jood yn mynychu fel cynrychiolydd consortiwm o 57 o wledydd Islamaidd (y Sefydliad Cydweithredu Islamaidd, OIC).

Jood Alharthi

Mae Jood yn fyfyrwraig Anrhydedd Sengl LLB yn y Gyfraith ac mae hi yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi’n ugain mlwydd oed a chafodd ei geni a’i magu yn Riyadh, Sawdi-Arabia.  

Bydd Jood yn mynd i GIMUN ar ei phen ei hun. I sicrhau ei sedd yn y gynhadledd, bu raid iddi gynnwys yn ei chais ddatganiad yn esbonio pam ei bod am gymryd rhan a sut y byddai’n cyfrannu at GIMUN.

Cynhelir GIMUN bob blwyddyn ac mae’n para wythnos. Fe’i cynhelir eleni o 22 Mawrth tan 28 Mawrth. Yn ystod yr wythnos bydd myfyrwyr prifysgol yn dadlau, yn cyfiawnhau gweithrediadau eu gwlad neu eu sefydliad ac yn llunio datrysiadau.

Thema’r digwyddiad eleni yw Mynediad at Ynni. Nod thema Cynhadledd Flynyddol GIMUN 2014 yw crybwyll nifer o heriau mawr y bydd y gymuned ryngwladol yn eu hwynebu yn ystod y ganrif hon. Mae gwefan y gynhadledd yn nodi: “Mae pawb yn sôn am ddatblygu cynaliadwy, ond rydym yn methu o hyd i gefnu ar danwyddau ffosil fel rhan hanfodol o’n heconomïau.”

Bydd Jood yn un o gynrychiolwyr bloc yr OIC. Mae’r OIC yn sefydliad rhyngwladol sy’n cynnwys 57 o aelod-wladwriaethau. Mae’r sefydliad yn nodi ei fod yn "llais cyfunol y byd Moslemaidd " a’i nod yw "amddiffyn a diogelu lles y byd Moslemaidd wrth hyrwyddo heddwch a chytgord rhyngwladol ".

Mae gan yr OIC ddirprwyaeth barhaol i’r Cenhedloedd Unedig, a hwn yw’r sefydliad rhyngwladol mwyaf y tu allan i’r Cenhedloedd Unedig.

Wrth siarad am ei rôl meddai Jood “Anrhydedd o’r mwyaf i mi yw cael fy newis yn gynrychiolydd yr OIC gan mai dau berson yn unig sydd mewn Safle Cynrychioladol Bloc. Mae disgwyl i mi weithredu fel hyfforddwr i’r taleithiau, a gwneud yn siŵr nad ydynt yn crwydro’n rhy bell o bolisi ei dalaith/thalaith; sy’n cyfrannu at realaeth y gynhadledd.”