Myfyriwr PhD Prifysgol Abertawe yn un o bedwar o feirdd sy’n wynebu’r her o gyfansoddi can cerdd mewn 24 awr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Gwennan Evans, sy’n astudio am ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, yn un o bedwar o feirdd sy’n wynebu’r her o gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Cafodd yr her anferthol ei osod gan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

Am hanner nos, wrth droi yn ddydd Iau, 2 Hydref, bydd y beirdd yn cychwyn ar eu hymgais uchelgeisiol i gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol rhyngddynt, a’u postio ar flog Her 100 Cerdd i’r cyhoedd gael eu darllen. Dyma’r trydydd tro i’r Her 100 Cerdd gael ei chynnal, gyda’r ddau dîm blaenorol o feirdd yn llwyddo i gyflawni’r her eiliadau yn unig cyn hanner nos.

Gwennan EvansAelodau o Dîm Talwrn Y Ffoaduriaid sydd wedi derbyn yr Her eleni, sef Gwennan Evans, Llŷr Gwyn Lewis , Casia Wiliam a Gruffudd Owen. Mae’r pedwar bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond fel awgryma enw eu tîm Talwrn, maent oll wedi ffoi i’r Brifddinas o wahanol ardaloedd o Gymru.

Daw Gwennan (chwith) o Ddyffryn Cothi yn wreiddiol, ac yn ogystal ag astudio am ei doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yn Academi Hywel Teifi, fe’i clywir yn cyhoeddi’r newyddion traffig a thywydd ar BBC Radio Cymru yn achlysurol. Yn 2012, cyhoeddodd Y Lolfa ei nofel gyntaf, Bore Da. Roedd Gwennan yn aelod o dîm buddugol yr ymryson eleni, sef y Disgyblion Ysbâs. Ymysg pryderon Gwennan am yr Her y mae aros yn effro am bedair awr ar hugain, a gorfod cyfansoddi ar frys heb amser i ailddrafftio.

Yn ôl Gwennan, “Mae’r pedwar ohonom yn tueddu i ragori ar dasgau gwahanol yn y Talwrn; Llŷr ar y cywydd, Casia ar y delyneg, Gruffudd ar yr englyn a finnau ar y gân. Bydd hi’n ddiddorol gweld a fydd y cydbwysedd yn newid yn yr Her 100 Cerdd”.