Myfyriwr peirianneg o Brifysgol Abertawe’n dangos ei fod e’n werth ei halen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Daniel Eade, sy’n fyfyriwr yn ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos ei fod e’n werth ei halen trwy ennill gwobr haeddiannol unwaith eto ym maes peirianneg.

Dan yw’r myfyriwr cyntaf o Brifysgol Abertawe i ennill gwobr urddasol Salters mewn peirianneg gemegol i raddedigion.  

Dyfarnwyd y wobr i Dan yn ogystal â phedwar o fyfyrwyr peirianneg gemegol eraill o Gaerfaddon, Nottingham, Caergrawnt a Strathclyde. Mae Dan eisoes wedi dangos ei sgiliau arwain pan dderbyniodd y Wobr Arweinyddiaeth Uwch gan yr Academi Frenhinol Peirianneg y llynedd.  

Dan Eade April 2014

Wrth siarad am ei lwyddiant meddai Dan: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi derbyn y gwobrau hyn. Bydd y ddwy wobr yn fy ngalluogi i ddilyn fy uchelgeisiau. Rwyf newydd gwblhau Blwyddyn mewn Diwydiant gyda Valero ym Mhurfa Penfro, fel rhan o’u cynllun bwrsariaethau peirianneg. Rwyf bellach wedi dychwelyd i Brifysgol Abertawe i gwblhau fy MEng, ac yna rwyf yn gobeithio cael swydd i raddedigion yn y diwydiant olew a nwy fel peiriannydd prosesu, ac wedyn gobeithiaf y byddaf yn gallu dod yn arweinydd yn y diwydiant olew a nwy yn y dyfodol.”

Meddai Dr Chedly Tizaoui, Athro Cyswllt, Cyfarwyddwr Portffolio Peirianneg Gemegol ac Amgylcheddol, y Coleg Peirianneg: “Mae hwn yn newyddion gwych nid yn unig i Dan ond hefyd i Beirianneg Gemegol yn Abertawe. Mae’n arwydd clir o ansawdd ardderchog ein cwrs a hefyd ein myfyrwyr.”

Meddai darlithydd Dan, Dr Paul Williams: “Bu Dan yn ased gwych ar gyfer y portffolio Peirianneg Gemegol yn Abertawe. Cyfrannodd at y gwaith o sefydlu’r Gymdeithas Peirianneg Gemegol a gweithredodd fel cadeirydd y pwyllgor a drefnodd Diwrnod Chwaraeon IChemE Frank Morton yn Abertawe. Mae e wir yn haeddu’r gwobrau hyn.”

Mae Sefydliad Salters yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi addysgu cemeg, wrth annog pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd yn niwydiannau cemegol y DU, ac wrth hyrwyddo addysg gemegol gan gynnwys maes datblygu’r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd. Dyfernir hyd at ddeg o wobrau Salters i raddedigion, sydd oll yn werth £1,000 yr un, ac fe’u dyfernir i israddedigion blwyddyn olaf sy’n astudio mewn prifysgolion yn y DU, gan geisio sicrhau cydbwysedd cyfartal rhwng cemegwyr a pheirianwyr cemegol.

Mae Cynllun Gwobrau Uwch yr Academi Frenhinol ar agor i israddedigion MEng sydd yn eu hail flwyddyn o radd pedair blynedd mewn peirianneg neu israddedigion MEng sydd yn eu trydedd flwyddyn o radd pum mlynedd. Rhoddir hyd at £5,000 i enillwyr y gwobrau i’w galluogi i weithredu eu cynllun datblygiad personol dros gyfnod o dair blynedd ac er mwyn rhoi’r sgiliau a’r gallu i’r myfyrwyr roi eu gyrfa ar lwybr carlam ar ôl graddio.