Gweithdai RUCK yn gwella sgiliau diwydiant datblygu meddalwedd y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cyflenwi smorgasbord o weithdai ar y 25ain d 26ain Mehefin ym Mhrifysgol Aberystwyth; yn darparu fforwm ar gyfer datblygwyr a pherchnogion cwmnïau i siarad am dechnoleg tra'n ennill gwybodaeth a sgiliau ymarferol i adeiladu busnesau cryf a chynaliadwy sy'n seiliedig ar TG.

RUCK workshopAr draws y ddau ddiwrnod bydd ystod o siaradwyr yn cyflenwi tiwtorialau a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer cymuned datblygu meddalwedd y DU.

Meddai'r Athro Chris Price, trefnydd y digwyddiad a phennaeth addysgu cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, " Mae gan Gynghrair Meddalwedd Cymru gyfoeth o brofiad mewn datblygu a chyflenwi cyrsiau hyfforddi 'ymarferol' ar gyfer y gymuned o ddatblygwyr sy'n ymrwymedig i gynnal eu sgiliau a werthfawrogir yn fawr.

“Bydd y gweithdai RUCK yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, gyda thiwtorialau'n cael eu cyflenwi gan arbenigwyr ag angerdd anniwall am drosglwyddo sgiliau a phopeth technegol.”

Darperir yn dda ar gyfer rhaglenwyr gwe sydd â diddordeb  i ddysgu Javascript; gyda sesiwn hanner diwrnod ar gyfer dechreuwyr a sesiwn dilynol ar gyfer rhaglenwyr JS profiadol sydd â diddordeb i ddefnyddio HTML5 ar gyfer gemau neu gymwysiadau sy'n canolbwyntio ar fusnes. Hefyd mae tiwtorial diqwrnod llawn ar gyfer rhaglenwyr sydd am fanteisio ar y cyfleoedd masnachol arwyddocaol a chynyddol yn yr arena Arduino a ffonau clyfar.

Bydd datblygwyr yn dysgu i ddatblygu ar gyfer y we symudol, er mwyn dylunio gwefannau gwell, a sut i wella ymddangosiad a natur 'tudalennau glanio' a arweinir gan hysbysebion. A bydd y ffotograffydd proffesiynol, John Gilbey, yn rhoi cyngor ar sut i dynnu ffotograffau gwych.

Bydd gweithdy arall yn canolbwyntio ar y problemau ymarferol ynghylch diogeledd gwybodaeth a rhwydweithiau, yr hyn mae angen i berchnogion cwmnïau ei ystyried, a pha gamau gweithredu mae angen i staff eu cymryd er mwyn sicrhau asedau'r busnes. Tra bod  tiwtorialau eraill yn canolbwyntio ar ddefnyddio SourceTool a Git i sefydlu rheoli fersiwn ac i gadw prosiectau lluosog, sut i osod a defnyddio offer a profi awtomatig, profi defnyddioldeb fforddadwy; ac adeiladu cynnyrch un-clic.

Ar gyfer y rhai hynny sydd am ddysgu sut i farchnata eu busnes TG neu gymhwysiad meddalwedd, bydd sesiwn hanner diwrnod - a arweinir gan yr ymarferydd marchnata technegol, Bethan Lauder – yn amlinellu'rcamau ymarferol y dylai'r gynulleidfa ag ymwybyddiaeth uchel o dechnoleg eu dilyn a'r offer a thechnegau allweddol a ddefnyddir wrth ddatblygu a chyflenwi cynlluniau AD a marchnata effeithiol.

Casglodd yr Athro Price: “Mae'r gweithdai RUCK, yn nhref glan y môr Aberystwyth, yn ffordd wych i ddatblygwyr meddalwedd ddod ynghyd gyda chydweithwyr - a phobl eraill o'r un meddwl - er mwyn dysgu sgiliau ymarferol mewn awyrgylch ymlaciedig a chyfeillgar.

“Ar ddiwedd y 2 ddiwrnod, bydd mynychwyr yn meddu ar sgiliau a gwybodaeth y gallant eu cymhwyso cyn gynted ag y maent yn dychwelyd i'r swyddfa.””

Cynhelir y digwyddiad Really Useful Computer Knowledge [Gwybodaeth Gyfrifiadurol Gwir Ddefnyddiol] (RUCK) ym Mhrifysgol Aberystyth ar 25ain a 26ain Mehefin 2014. I gofrestru, ewch i: www.ruckworkshops.com