Glud teils yn helpu ymchwilwyr i bennu dyfodol celloedd solar

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu dyluniad newydd ar gyfer celloedd solar printiedig a fydd yn eu gwneud yn rhad, yn ddiogel ac yn hawdd i’w defnyddio, gan gymryd ysbrydoliaeth gan ddeunydd a geir fel arfer yn eich siop crefftau cartref leol.

Specific logo

Mae’r ymchwilwyr a leolir yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Maglan, Port Talbot, wedi defnyddio grid nicel sy’n cael ei ludo’n sownd gan ddefnyddio deunydd newydd sydd wedi’i seilio ar lud a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer teils, yn lle defnyddio haen ddargludol o aur sy’n ddrud ac yn anodd i’w defnyddio. Mae’r glud a ddatblygwyd yn ddiweddar yn ddargludol ac yn dryloyw, sy’n golygu bod modd defnyddio’r celloedd solar ar wydr yn ogystal â metel.

Meddai Dan Bryant, a gafodd y syniad: “Yr hyn sy’n gwneud y dyluniad newydd hwn mor gyffrous yw’r ffaith ein bod wedi gwneud hyn gan ddefnyddio deunyddiau rhad sy’n ddiogel ac yn hawdd i’w defnyddio.  Trwy wneud hyn rydym wedi goresgyn rhwystr mawr o ran gweithgynhyrchu’r celloedd hyn yn y fath niferoedd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i system ynni’r DU. Gyda’n dyluniad newydd rydym wedi sicrhau lefel effeithlonrwydd o bron i 16% yn y labordy, a gellir cymharu hyn â’r technolegau solar confensiynol a masnachol.”

Yn aml cyfeirir at gelloedd solar perovskite trydedd genhadaeth fel y peth newydd bwysicaf ym maes technoleg solar ac maent yn hyblyg ac yn ysgafn, sy’n golygu bod modd eu defnyddio ar doeau a waliau neu y gellir eu printio ar ddeunyddiau adeiladu yn ystod gweithgynhyrchu. Maent yn gweithio’n dda mewn amodau golau isel, fel sydd gennym yn y DU.

Yn y DU ceir dros 4 biliwn metr sgwâr o doeau a allai fanteisio ar y math hwn o dechnoleg celloedd solar printiedig; byddent yn darparu dwywaith gofynion trydanol y DU.

Meddai Dr Trystan Watson, sy’n arwain y grŵp ymchwil yn SPECIFIC “Mae celloedd solar printiedig yn dechrau dwyn ffrwyth. Ar ôl blynyddoedd o waith, rydym wrth ein boddau ein bod yn cynhyrchu canlyniadau effeithlonrwydd mor uchel yn y labordy. Mae SPECIFIC yn unigryw gan fod ganddo ei gyfleuster gweithgynhyrchu peilot ei hun, diolch i fuddsoddiad gwerth £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru, EPSRC ac Innovate UK, felly'r her nesaf i ni fydd cynyddu cynhyrchiant ar y dechnoleg hon fel ei bod yn barod ar gyfer y farchnad.”

Cyhoeddwyd eu hymchwil, a wnaed ar y cyd â’r Athro Henry Snaith a’i dîm ym Mhrifysgol Rhydychen ac Epigem, sy’n gwneud y rhwyll nicel, yn Advanced Materials.