Darlithydd Prifysgol Abertawe yn derbyn Dyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Jasmine Donahaye, uwch-ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, yn un o 16 o artistiaid proffesiynol sydd wedi derbyn Dyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru eleni.

Ffocws y dyfarniadau yw artistiaid sydd eisoes wedi ennill eu plwyf a chanddynt brofiad amlwg o gyflawni. Mae Cymru Greadigol yn cynnig amser amhrisiadwy i artistiaid o'r fath ddatblygu sgiliau newydd, ymchwilio i gyfleoedd newydd neu ddatblygu partneriaethau newydd ar adeg allweddol yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Dr Jasmine Donahaye Yn feirniad, bardd a golygydd, mae Dr Donahaye (chwith) yn ysgrifennu ar gyfer sawl genre, gan gynnwys barddoniaeth a gwaith creadigol ffeithiol a gyhoeddir yng Nghymru, Lloegr a'r Unol Daleithiau. Dyfarnwyd £20,000 i Dr Donahaye am ‘Slaughter’, prosiect ysgrifennu arbrofol a phenagored sy’n troi o gylch lladd-dy a'i amgylchfyd. Bydd y prosiect yn cynnwys cyfnod estynedig o arsylwi ac ysgrifennu dwys dros gwrs pedwar tymor.

Ar ôl derbyn y dyfarniad, meddai Dr Donahaye: “Rwy’n ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth drwy’r Dyfarniad Cymru Greadigol. Mae'r wobr yn cyflwyno cyfle unigryw i artistiaid neu awduron i archwilio syniadau ac arferion newydd, ac i ehangu hyn y maent yn ei wneud heb orfod ystyried yn rhy agos y gofynion y farchnad - neu, yn fy achos i, disgwyliadau cyhoeddwr.

Mae fy holl lyfrau, gan gynnwys dau fydd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn, yn cyfeirio at Israel/ Palesteina, ond mae’r wobr yma yn fy nghaniatáu i symud i gyfeiriad newydd. Mae’r prosiect yn archwilio i fyd nad yw’r mwyafrif ohonom yn ymwybodol ohoni, ac felly mae’r sialens yn fy mrawychu ac yn fy nghyffroi ar yr un pryd”.

Meddai David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Dyma gyfle Cyngor Celfyddydau Cymru i gydnabod talent eithriadol Cymru. Maent yn arbrofi wrth ddilyn llwybrau gwahanol o ran datblygu eu celfyddyd yng Nghymru yn y dyfodol. Mae dyfarnu'r grantiau eleni yn digwydd ar yr un adeg â chyhoeddi Ysbrydoli , ein Strategaeth ar gyfer Creadigrwydd a'r Celfyddydau yng Nghymru. Sylfaen y strategaeth honno yw ein hawydd i gefnogi a meithrin unigolion creadigol a'u cadw yng Nghymru a gwneud y celfyddydau yn wreiddiol i fywyd Cymru.”


Llun gan Keith Morris.