Cynnydd o 25% mewn ceisiadau i Brifysgol Abertawe, o’i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 4%

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ffigurau newydd yn dangos bod nifer y myfyrwyr sy’n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi cynyddu gan ychydig dros 56% yn y ddwy flynedd diwethaf.

Mae ffigurau UCAS a ryddhawyd i sefydliadau’n dangos bod 25% mwy o geisiadau ar gyfer Medi 2014 nag ar yr un dyddiad y llynedd. I’r gwrthwyneb, y cynnydd cyfartalog cenedlaethol ar gyfer ceisiadau prifysgol yw dim ond 4.25%.  

Making Waves campaignBu’r twf mwyaf o geisiadau o’r DU i Brifysgol Abertawe o Loegr: a chafwyd cynnydd pellach o 34.3% ar ben y cynnydd o 47% y llynedd.

Yn ogystal gwelwyd cynnydd o 11.5% yn niferoedd y myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn gwneud cais i astudio yn Abertawe, o’i gymharu â chynnydd cenedlaethol o 3%.

 chynnydd mewn 13 o 15 grŵp pwnc, y cynnydd mwyaf eleni yw yn yr Ysgol Beirianneg (cynnydd o 43.5% eleni a chynnydd o 124% dros y ddwy flynedd diwethaf); yr Ysgol Reolaeth (cynnydd o 40%); Coleg y Gyfraith (cynnydd o 28.4%) a Choleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau (cynnydd o 28.3%).     

StudentsMeddai’r Is-ganghellor yr Athro Richard B Davies:

“Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod myfyrwyr o Gymru a Lloegr yn cydnabod bod Abertawe yn Brifysgol sydd ar i fyny, gyda chyfleusterau ac agwedd sy'n gweddu â chyfleoedd a heriau'r byd cyfoes.

‌Rydym wedi cael mwy o bobl yn ein Diwrnodau Agored nag erioed o'r blaen, gydag ymwelwyr yn dod i weld un o brifysgolion a arweinir gan ymchwil mwyaf uchelgeisiol y DU.  Gwelodd yr ymwelwyr gymuned sy'n ffynnu ar archwilio a darganfod, ac sy'n cynnig y cydbwysedd iawn rhwng addysgu ac ymchwil gwych, ac sy’n cyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Gwelon nhw hefyd Brifysgol sy'n rhoi pwyslais mawr ar baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus. Cydnabyddir llawer o'n graddau gan gyrff proffesiynol priodol, ac mae gan bob myfyriwr fynediad at astudio dramor, lleoliadau gwaith, a dewisiadau cwrs arbennig sydd i gyd yn gwella cyflogadwyedd ein myfyrwyr.

Aerial viewMae'r cynnydd yn nifer y ceisiadau'n cyfiawnhau'r buddsoddiad enfawr mewn ehangu'r campws, ac yn cydnabod y gefnogaeth a gawsom oddi wrth Lywodraeth Cymru. Erbyn Medi 2015 bydd gan y Brifysgol gampws newydd yn y Bae i ategu Campws Parc Singleton ar ei newydd wedd.

‌Rydym yn hyderus y byddwn yn cyflawni’n huchelgais y bydd Abertawe wedi sefydlu ei hun yn un o 30 o brifysgolion ymchwil-ddwys gorau’r DU erbyn 2017, cyn ein canmlwyddiant yn 2020.”


Mae data arall yn dangos bod safle Prifysgol Abertawe ar i fyny:

•    Bu bodlonrwydd myfyrwyr yn gyffredinol ar gynnydd yn gyson a’r llynedd cafodd Abertawe sgôr o 86%, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU.
•    Mae dros  90% o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe eisoes mewn addysg bellach neu swydd o fewn chwe mis ar ôl graddio, a chânt fantais fwy eto trwy'r Academi Gyflogadwyedd a lansiwyd yn 2012.
•    Llwyddodd y Brifysgol i gadw ei lle ymhlith y 500 prifysgol orau yn Nhabl Sêr QS o Brifysgolion y Byd 2012-13. Derbyniodd 4 seren yn gyffredinol (a 5 seren am Addysgu) ar gyfer 2013.