Cyllid i raddedigion a myfyrwyr sy’n dechrau busnes newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Busnes mewn Ffocws ac Ddeorfa Rithwir Genedlaethol (NVI) Cymru, ehi2, Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe.


Lleoliad:                        Gwesty’r Village, Abertawe, SA1 8QY

Amser:                           5pm tan 7.30pm

Dyddiad:                        Nos Iau, Hydref 16

Cost:                              Mynediad am ddim

Pwy ddylai fod yno:      Myfyrwyr a Graddedigion (sydd wedi graddio yn y 6 blynedd diwethaf).


Os ydych yn ystyried dechrau busnes, mae yna amrywiaeth o gyfleodd cyllido y gallwch wneud cais amdanyn nhw, gan gynnwys:

  • Cynllun Cymorth i Raddedigion – bwrsari gwerth £6000 na fydd rhaid ei ad-dalu, wedi’i anelu at raddedigion sydd wedi graddio yn y 6 blynedd diwethaf gydag o leiaf NVQ Lefel 4
  • Bwrsariaeth Entrepreneuriaid Ifanc - bwrsari gwerth £6000 na fydd rhaid ei ad-dalu
  • Benthyciad dechrau busnes - benthyciad personol llog isel wedi’i gyllido gan y Llywodraeth. 

Mae’r holl gyfleoedd cyllido uchod hefyd yn cynnwys cyngor busnes a hyfforddiant sgiliau busnes am ddim, wedi’u cyllido gan Lywodraeth Cymru.

Dewch draw i’r digwyddiad am ddim hwn os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd cyllido uchod a chael cyfle i rwydweithio dros fwffe gyda phobl o’r un meddylfryd â chi a chynrychiolwyr o’r gymuned fusnes.


Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: enquiries@businessinfocus.co.uk.

Cofrestrwch drwy fynd i wefan Eventbrite: http://www.eventbrite.co.uk/e/funding-for-graduates-starting-a-new-business-tickets-13127784557.