Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2014

Cyhoeddir rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2014, un o’r gwobrau uchaf ei bri i awduron ifanc, ar nos Iau, 4 Medi.

Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a lansiwyd yn 2006 ac y’i noddir gan Brifysgol Abertawe, yw un o’r gwobrau uchaf ei bri i awduron ifanc, a’i nod yw annog doniau creadigol newydd yn fyd-eang. Mae’n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol, ac mae’r gystadleuaeth yn agored i o bob genre - barddoniaeth, rhyddiaith a drama.

Cerys Matthews with 2014 Dylan Thomas longlistDyfernir y wobr o £30,000 am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddwyd neu a gynhyrchwyd yn yr iaith Saesneg gan awdur sy’n 39 oed neu’n iau.

‌Mae’r Wobr eleni yn arwyddocaol wrth i ni ddathlu canmlwyddiant ers geni Dylan Thomas.

Cyhoeddir y rhestr fer yn Abertawe, tref enedigol y bardd, gan y cerddor a'r cyflwynydd radio Cerys Matthews, un o feirniaid y Wobr.

Daw’r cyhoeddiad yn rhan o gynhadledd ryngwladol o arbenigwyr Dylan Thomas, Dylan Unchained, sy'n cael ei chynnal gan y Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae’r rhestr hir, sy’n cynnwys 15 o lyfrau, yn cynnwys gwaith y bardd, awdur a’r sgriptiwr o Gymru, Owen Sheers, pum awdur o’r Unol Daleithiau, nofelydd o India, Kei Miller, bardd o Jamaica sydd bellach wedi’i leoli yng Nglasgow, a’r awdur trosedd, Tom Rob Smith.

‌Mae dau o’r llyfrau sydd ar y rhestr, The Luminaries gan Eleanor Catton, a A Girl is a Half-Formed Thing gan Eimear McBride wedi ennill y Booker Prize a’r Baileys Women’s Prize yn ôl eu trefn.

Meddai Cerys Matthews, un o’r beirniaid: “Mae’r rhestr hir yn arbennig o dda eleni, ac rydym wedi denu awduron rhyngwladol ifanc sydd â dawn anhygoel.  Mae’r rhestr yn cynnwys gwaith rhyngwladol o bob genre - barddoniaeth, rhyddiaith a drama. Mae’n fraint bod yn rhan o’r panel beirniadu eleni, a hynny ym mlwyddyn canmlwyddiant ers geni Dylan Thomas”. 

Cerys Matthews and Peter SteadLlun: Cerys Matthews, un o’r beirniaid, a Peter Stead, sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas gyda’r llyfrau sydd ar restr hir 2014.  

Meddai Peter Stead, sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas: “Mae'r Wobr yn ymhyfrydu yn ei bersbectif rhyngwladol, sy'n adlewyrchu'r ffordd y mae'r iaith Saesneg yn cael ei defnyddio gan awduron ledled y byd. Mae'r ffuglen Americanaidd ar y rhestr yn amrywio o idiom Iddewig Manhattan i hanes gwleidyddol America Ladin ac anthropoleg ynysoedd y Pacific.

“Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys awdur Somali sy’n ail-fyw y trais diweddar ar ei wlad, a nofel Saesneg, Mrs Hemingway gan Naomi Wood, sy’n sôn am un o awduron gorau’r Unol Daleithiau.

“Mae Mametz gan Owen Sheers yn cynnig cipolwg i ddarllenwyr o fywyd a marwolaeth yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf”.

Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas – rhestr hir 2014

  • Daniel Alarcón, At Night We Walk in Circles (Fourth Estate)
  • Eleanor Catton, The Luminaries (Granta)
  • John Donnelly, The Pass (Faber & Faber)
  • Joshua Ferris, To Rise Again at a Decent Hour (Viking)
  • Emma Healey, Elizabeth is Missing (Viking)
  • Meena Kandasamy, The Gypsy Goddess (Atlantic Books)
  • Eimear McBride, A Girl is a Half-Formed Thing (Faber & Faber)
  • Kseniya Melnik, Snow in May (Fourth Estate)
  • Kei Miller, The Cartographer Tries to Map a Way to Zion (Carcanet Press)
  • Nadifa Mohamed, The Orchard of Lost Souls (Simon & Schuster)
  • Owen Sheers, Mametz (National Theatre Wales)
  • Tom Rob Smith, The Farm (Simon & Schuster)
  • Rufi Thorpe, The Girls from Corona del Mar (Knopf)
  • Naomi Wood, Mrs Hemingway (Picador)
  • Hanya Yanagihara, The People in the Trees (Atlantic Books)

Cyhoeddir enw'r enillydd mewn cinio gala yn Abertawe ym mis Tachwedd.

Am wybodaeth bellach, ewch i: Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas