Cydweithrediad gyda Chromatrap yn arwain at newid sylweddol o ran cwmpas ac effeithiolrwydd ymchwil epigenetig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gwyddonwyr yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Porvair plc, wedi cyd-ddatblygu a marchnata Chromatrap® 96 (C96) – cynnyrch sydd wedi’i ddylunio i alluogi ymchwilwyr i gynnal llawer o arbrofion Imiwno-waddodi Cromatin (ChIP) ar yr un pryd.

ChromatrapimageMae ChIP yn dechneg a ddefnyddir i astudio cysylltiad proteinau penodol ag ardaloedd genomig diffiniedig ac mae’n hanfodol ar gyfer ymchwil epigenetig.

Epigeneteg yw astudio gwybodaeth genynnau a’u nodweddion ac fe’i defnyddir mewn ymchwil hanfodol ar gyfer clefydau gan gynnwys canser a chyflyrau niwro-ddirywiol megis clefyd Parkinson. Mae’r defnydd cyffredinol o epigeneteg yn ei ddyddiau cynnar ar hyn o bryd.

Disgwylir y bydd Chromatrap® 96 yn gwneud cyfraniad enfawr i ymchwil epigenetig ar raddfa fyd-eang, gan gynnig hyblygrwydd a chyflymder digynsail mewn profion i ymchwilwyr.

Rhoddwyd sylw i’r ymchwil y mis hwn ar dudalen flaen y cylchgrawn gwyddorau bywyd blaenllaw Nature Methods ar-lein a cheir yr adroddiad llawn yma http://www.nature.com/app_notes/nmeth/2014/140909/pdf/nmeth.f.372.pdf.

Meddai’r Athro Steve Conlan, sy’n Bennaeth Bioleg Atgenhedlol ac Ymchwil Oncoleg Gynaecolegol, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol ar gyfer y Coleg Meddygaeth, ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan NanoIechyd : “Mae ein cydweithrediad gyda Porvair wedi arwain at ddatblygiad technegol sy’n caniatáu i ni symleiddio’n hymchwil epigeneteg drwy alluogi arbrofion cyflymach a mwy cywir sy’n angenrheidiol i ddeall prosesau clefydau a datblygiadau therapiwtig.”

Trafodir ymchwil y grŵp yn y fideo byr hwn http://www.youtube.com/watch?v=D0uhdtVAoQQ.

Meddai Dr Amy Beynon o Porvair: “Mae Chromatrap yn symleiddio’r broses ChIP gan ei wneud yn brawf sy’n syml, yn effeithlon, ac yn hawdd i’w berfformio. Mae fformat C96 yn rhoi hyblygrwydd enfawr ac atgynyrchioldeb mwy i gwsmeriaid.  Ni yw’r unig gwmni sy’n darparu fformat lle y gellir prosesu profion 96 ChIP mewn un diwrnod yn unig.

“Gydag adborth ardderchog gan gwsmeriaid a chronfa ddata sy’n tyfu, gobeithiwn ddarparu newid sylweddol mewn ChIP a’i ddefnydd ar gyfer ymchwil glinigol.”