Cu @ Swansea: The Future of the Lower Swansea Valley’s Past

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith gymunedol nesaf yng nghyfres rad ac am ddim Adran Addysg Barhaus Oedolion (DACE) Prifysgol Abertawe yng Nghlwb Cymdeithasol Glandŵr yn Abertawe.

Siaradwr: Yr Athro Huw Bowen

Teitl y ddarlith: Cu @ Swansea - The Future of the Lower Swansea Valley’s Past

Dyddiad: Dydd Iau, 3 Ebrill

Amser: 6pm tan 7:45pm

Lleoliad: Clwb Cymdeithasol Glandŵr, Ffordd Castell-nedd, Abertawe SA1 2LE

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb

Hafod Copperworks 1957

Mae’r ddarlith ddarluniadol hon yn archwilio datblygiad y prosiect adfywio sy’n dod â safle gweithfeydd copr Hafod-Morfa gynt yn fyw ar hyn o bryd.

Manylion cyswllt:  I gadw lle neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211 neu e-bostiwch adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd lleoliad y ddarlith yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.