Athro Prifysgol Abertawe yn cael ei benodi’n Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Hywel Dda

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro John Gammon, Dirprwy Bennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael ei apwyntio yn Aelod Annibynol o Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Gyda chyfrifoldeb penodol dros reoli datblygiadau strategol yn ymwneud ag ymgysylltu, arloesi a chydweithio â rhanddeiliaid allweddol, mae’r Athro Gammon yn addysgu ac yn ymchwilio i Reoli Gofal Iechyd, Llywodraethu, Adnoddau Dynol, ac Atal a Rheoli Heintiau.

‌Mae ganddo brofiad sylweddol ym maes addysg uwch, mae wedi bod yn aelod o Fwrdd cyhoeddus, ac yn fwy diweddar mae wedi cael profiad o weithio mewn cyd-destun masnachol. Gyda chefndir ym myd nyrsio, mae wedi arbenigo mewn atal a rheoli heintiau, ac mae wedi ymrwymo’n angerddol i werth ‌gweithio rhyngddisgyblaethol a rhoi lle canolog i lais y claf a’r cyhoedd ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Professor John Gammon Meddai Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, Bernadine Rees OBE: “Rwy'n falch iawn o groesawu'r Athro Gammon fel aelod o'r bwrdd annibynnol newydd. Bydd ei brofiad a’i gysylltiadau gyda’r Brifysgol yn fudd mawr i ni wrth ddatblygu rolau a chymwyseddau newydd sy'n briodol i'r Gwasanaeth Iechyd modern”.

Meddai’r Athro Gammon (chwith): “Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd i fynd i’r afael â’r heriau hyn, llunio ymatebion a datblygu datrysiadau. Rwy’n awyddus i adeiladu ar enw da cadarnhaol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel sefydliad rhagweithiol a defnyddio fy mhrofiad yn y Brifysgol i ddatblygu’r weledigaeth, cynnig sylwadau, cyngor a gwybodaeth seiliedig ar ymchwil o safbwynt addysg, polisïau strategol a dyfodol y galwedigaethau y mae eu haddysg yn hanfodol i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn datblygu ymhellach.”