Astudiaeth newydd yn datgelu bod morloi bach wedi dal haint gwenwyn bwyd o ganlyniad i lygredd dynol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod morloi bach llwyd wedi dal ffurf o facteriwm Campylobacter, prif achos gastroenteritis, ac mae’n debygol bod y bacteriwm wedi dod o lygredd dynol.

Cafodd yr astudiaeth, a arweiniwyd gan ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Moredun, Caeredin mewn cydweithrediad â’r Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe a’r Uned Ymchwil Mamaliaid Môr, Prifysgol Sant Andreas, ei chyhoeddi yn ddiweddar ym Molecular Ecology.

Seal pup looking at camera‌Llun: Morlo bach llwyd

Canfuwyd y bacteriwm mewn morloi llwyd a oedd yn bridio ar Ynys Mai, ynys yn Aber Gweryd yn agos i Gaeredin, yr Alban, sy’n un o’r llwythau morloi mwyaf ar arfordir y dwyrain. 

Dangosodd y dadansoddiadau a wnaed mai achos tebygol yr haint oedd gweithgarwch dynol, gan gynnwys carthffosiaeth a gwastraff gan ffermio ac anifeiliaid, a oedd wedi heintio’r dŵr.

Awgrymodd y dystiolaeth hefyd fod y bacteriwm yn gysylltiedig â gastroenteritis mewn morloi llwyd.

Gwelir morloi llwyd yn aml ar arfordir Prydain ac maent yn un o’r prif ysglyfaethwyr  yn y gadwyn fwyd yn nyfroedd y DU. Weithiau ystyrir mamaliaid morol yn “rhywogaethau sentinel”, sy’n golygu bod eu hiechyd a’u lles yn arwydd o gyflwr ein moroedd a bywyd morol yn gyffredinol.  

Dyma’r astudiaeth gyntaf i arunigo’r rhywogaeth hon o facteriwm mewn morloi llwyd.  Mewn pobl, adroddir mai Campylobacter yw’r prif fath o facteriwm i achosi gastroenteritis bacteriol ac o ganlyniad bob blwyddyn yn y DU ceir dros 500,000 o achosion cymunedol, 20,000 o gyfnodau yn yr ysbyty a 110 o farwolaethau. Fodd bynnag, ni wyddys llawer am y ffordd y caiff ei drosglwyddo i anifeiliaid gwyllt.

Astudiodd y tîm forloi llwyd newydd-anedig ac ifanc ar Ynys Mai.  Roedd eu samplau’n cynnwys morloi bach byw a morloi bach a oedd wedi marw yn y gwyllt. Gwnaethant astudio tri chynefin bridio gwahanol: pyllau marwaidd creigiog, llethrau gwelltog mwdlyd a thraethau clogfeini llanw.

Gwnaeth yr ymchwil ganfod:

•    bod bacteriwm Campylobacter jejuni yn bresennol mewn hanner o’r holl forloi bach yn y samplau: 70 allan o 140.  (24 o’r 50 o forloi marw a 46 o’r 90 o forloi byw).

•    Roedd y mwyafrif (79%) o’r samplau o forloi a gymerwyd wedi’u priodoli i ffynonellau dynol ac amaethyddol

•    Roedd byw ar Ynys Mai am gyfnodau hirfaith yn gysylltiedig â chyfradd uwch o haint. Roedd cyfradd is ymhlith y morloi bach a adawodd yr ynys yn gynharach nag eraill am y tro cyntaf i fynd i’r môr. Roedd cyfraddau haint hefyd yn is mewn morloi bach a anwyd ar draeth clogfeini llanw’r ynys, ac mewn morloi bach byw a adawyd yn ddiymgeledd ac yr aethpwyd â hwy i ganolfan adsefydlu ar y tir mawr.  Mae’r dosbarthiad hwn o haint yn dystiolaeth o heintio oherwydd datguddiad i lygryddion.


400 x 193 Llun:  Bacteriwm campylobacter jejuni

Cydweithiodd yr Athro Samuel Sheppard a Dr Guillaume Meric o’r Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe â Dr Johanna Baily a Dr Mark Dagleish o Sefydliad Ymchwil Moredun, Caeredin a Dr Ailsa Hall o’r Sefydliad Ymchwil Mamaliaid Môr, Prifysgol Sant Andreas.  

Meddai’r Athro Samuel Sheppard o Goleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe:

“Cafodd niferoedd mawr o forloi llwyd eu heintio gan fathau o Campylobacter sydd fel arfer yn gysylltiedig â haint dynol, nid y rhywogaeth a geir fel arfer mewn mamaliaid morol yn unig. Dangosodd y morloi a oedd wedi’u heintio symptomau sy’n gyson â gastro-enteritis - y gellid eu cymharu â’r symptomau a geir mewn pobl. Mae hyn yn drawiadol gan ei bod yn dangos y gallai’r pathogen dynol pwysig hwn fod yn lledaenu i rywogaethau bywyd gwyllt bregus lle na wyddys ei botensial fel clefyd.  

Er i’r astudiaeth edrych ar forloi yn nyfroedd yr Alban, mae’n debygol y byddai morloi oddi ar arfordir Cymru, ac ar draws y DU, yn cael eu heffeithio mewn modd tebyg. Mae angen gwneud mwy o ymchwil i ganfod graddfa’r broblem.”  

Meddai Dr Johanna Baily o Sefydliad Ymchwil Moredun:

“Mae’r canfyddiadau’n gyson â naill ai ffynhonnell gyffredin neu drosglwyddiad uniongyrchol o haint Campylobacter dynol a morloi llwyd. Maent yn codi pryderon am lygredd amgylcheddol gan facteria ysgarthol ar arfordiroedd Prydain, ac ymlediad dilynol pathogenau dynol i rywogaethau bywyd gwyllt morol sentinel.”

Meddai Dr Ailsa Hall, Cyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Mamaliaid Môr:

“Er mwyn i ni ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd cynnar a chyfraddau goroesi’r anifeiliaid hyn yn y pen draw, mae’n hanfodol i ni ganfod achosion yr haint a’r clefyd mewn morloi llwyd bach yn ystod y tymor bridio. Mae canlyniadau’r astudiaeth hon wedi dangos bod y cysylltiad rhwng iechyd mamaliaid morol o amgylch ein harfordir yn gysylltiedig yn agos â gweithgareddau pobl, ar y tir yn ogystal ag yn y cefnfor.”