Arbenigwr Rheoleg o Brifysgol Abertawe yn derbyn gwobr yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Rheoleg Prydain a Sefydliad Mecaneg Hylifau An-Newtonaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Nafiseh Badiei, sy'n arbenigwr mewn rheoleg o Ganolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe wedi derbyn gwobr am boster ar ei gwaith ar reoleg waed yng Nghynhadledd y Sefydliad Mecaneg Hylifau An-Newtonaidd a gynhaliwyd yn ddiweddar ar Reometreg a Rheoleg Gyffredinol.

Mae Cymdeithas Rheoleg Prydain yn cyflwyno'r wobr yn flynyddol am y poster gorau. Caiff pob poster ei feirniadu gan ddau o reolegwyr arbenigol rhyngwladol blaenllaw. Eleni y beirniaid oedd yr Athro R Buscall a'r Athro H-M Laun.

Mae'r gystadleuaeth yn frwd ond dyfarnwyd yr ail wobr i Dr Nafiseh Badiei ar ôl cystadleuaeth arbennig o agos gyda'r enillydd o grŵp Rheoleg Leeds.

Dr Nafiseh Badiei

Wrth sôn am ei llwyddiant, meddai Dr Badiei: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy nghydnabod a'm hannog gymaint. Mae cystadleuaeth am y wobr hon bob amser yn gryf iawn a hoffwn ddiolch i'm holl gydweithwyr yn Abertawe sy'n gweithio gyda mi ar reoleg deunyddiau biolegol. Rydym wir yn gweithio fel tîm."   

Mae gan y Ganolfan NanoIechyd ddiddordebau arbennig mewn cymwysiadau biolegol o ran rheoleg gan gynnwys y potensial i'w defnyddio fel arf mewn sgrinio ar gyfer clefydau a monitro therapiwtig. 

Mae'r Ganolfan yn gartref i offer rheometreg o'r radd flaenaf gan gynnwys dau reomedr straen dan reolaeth ARES-G2 (TA Instruments, y DU) a phedwar rheomedr straen dan reolaeth AR-G2 (TA Instruments, y DU).

Rheoleg yw gwyddoniaeth llif ac anffurfio deunyddiau. Mae nodweddion rheolegol e.e. gludedd, o bwysigrwydd hanfodol yn y broses o weithgynhyrchu neu brosesu llawer o ddeunyddiau gan gynnwys inciau, olewon, bwydydd, biswail, geliau ac wrth bennu tewdra cynnyrch terfynol. Er enghraifft, mae'r modd y mae ansawdd bwydydd yn cael ei ddeall yn deillio o'r rhyngweithiad rhwng rheoleg y cynnyrch bwyd a’r modd y mae’n symud yn y ceg - ni all cynnyrch terfynol fod yn rhy denau neu'n rhy dew er mwyn bodloni'r defnyddiwr.  

Mae nodweddion rheolegol deunyddiau biolegol megis gwaed dynol o arwyddocâd mawr. Gall gwahaniaethau mewn rheoleg waed ddynodi cychwyn clefydau cardiofasgwlaidd.

Hefyd mae gan y Ganolfan gydweithrediadau llwyddiannus, sydd wedi arwain at brosiectau ymchwil wedi’u hariannu, gyda nifer o Fusnesau Bach a Chanolig sy'n gweithio yn y sectorau biomeddygol, trin dŵr a bwyd.  Mae cyfuno cyfleusterau CNH (in vitro) a BRU (mewn ysbyty) yn galluogi cwmnïau i gael mynediad at yr offer a'r arbenigedd gorau mewn ymchwil Rheoleg. 

 

Llun: Yr Athro Rhodri Williams, sy'n Llywydd Cymdeithas Rheoleg Prydain ac yn Athro yn y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn llongyfarch Dr Nafiseh Badiei ar ei phoster.