Ap arloesol Prifysgol Abertawe yn cipio gwobr yng ngwobrau Gwireddu’r Geiriau, Llywodraeth Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ap arloesol ‘Gofalu Trwy’r Gymraeg’ a grëwyd gan Brifysgol Abertawe, wedi cipio’r wobr yng nghategori Technoleg Gwybodaeth a’r Gymraeg yng Ngwobrau’r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol 2014, Llywodraeth Cymru.

Dyfarnwyd y wobr, sy’n cynnwys gwobr ariannol o £1,000, mewn seremoni wobrwyo yng Nghynhadledd y Gymraeg mewn Gofal Iechyd ar y 19 Mehefin 2014 yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd.

Mae'r ap ‘Gofalu Trwy’r Gymraeg’, a ariannwyd drwy gynllun grantiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych y llynedd, yn adnodd sy'n cynnwys geiriau, termau ac ymadroddion defnyddiol ym maes iechyd, i gynorthwyo a galluogi unigolion sy’n gweithio yn y maes i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chleifion, a thrwy hynny sicrhau bod modd i'r cleifion hynny drafod eu hanhwylderau trwy gyfrwng eu dewis iaith.

Gofalu Trwy'r Gymraeg Small Seiliwyd yr ap ar lyfryn y ddarlithwraig Angharad Jones o Goleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol. Rhoddwyd copi o’r llyfryn deugain tudalen i fyfyrwyr y Coleg yn 2011, gyda’r nod o’u hannog i arfer ac ymarfer y Gymraeg a chynnig gwasanaeth dwyieithog o’r radd flaenaf i’r cyhoedd. Wrth droi’r llyfryn yn declyn dysgu rhyngweithiol, mae’r adnodd defnyddiol hwn bellach ar gael i bawb fedru ei ddefnyddio yn ôl yr angen, ac yn dilyn cyllido pellach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddiweddar, mae’r ap bellach ar gael i’w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple ac Android.

Meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ''Hoffwn longyfarch pawb fu ynghlwm â'r gwaith o greu'r Ap arloesol yma ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae'r Coleg Cymraeg yn ystyried fod datblygiad y Gymraeg ym maes technoleg newydd yn gwbl allweddol i ffyniant hir dymor yr iaith ac yn falch o gydweithio gyda Phrifysgolion i sicrhau datblygiadau blaengar sy’n cefnogi gwaith myfyrwyr yn ein Prifysgolion a gweithwyr iechyd yn y gweithle. Edrychwn ymlaen at weld datblygiadau pellach o'r math hwn ganddynt yn y dyfodol.''

Enwebwyd ‘Gofalu trwy’r Gymraeg’ ar gyfer y wobr hon gwobr gan Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, ac yn dilyn y seremoni wobrwyo, meddai Dr Ffrancon: “Rwy'n hynod falch o weld ap arloesol 'Gofalu trwy'r Gymraeg' yn ennill Gwobr Technoleg Gwybodaeth a'r Gymraeg yng Ngwobrau Gwireddu'r Geiriau Llywodraeth Cymru - y tro cyntaf i'r wobr gael ei chynnig.

Gwireddu'r Geiriau“Mae'n dda gweld ffrwyth gwaith partneru da ac ymateb creadigol ac arloesol i'r her o gefnogi gweithwyr y sector iechyd gyda'u sgiliau iaith Gymraeg yn derbyn cydnabyddiaeth fel hyn. Mae'r Academi a'i phartneriaid eisoes wedi dechrau ar gyfres o gynlluniau tebyg pellach ac mae derbyn gwobr fel hon yn ysgogiad pellach i ni arbrofi ac arloesi”.  

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, ‘‘Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn bod gwaith caled Academi Hywel Teifi a’i phartneriaid yn cael ei gymeradwyo gyda’r wobr hon. Mae’r ap wedi profi’n hynod o lwyddiannus, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu prosiectau tebyg maes o law”.

Gellir lawrlwytho ‘Gofalu Trwy’r Gymraeg’ yn rhad ac am ddim oddi ar Google Playar gyfer dyfeisiau Android,neu gallwch lawrlwytho'r fersiwn ar gyfer dyfeisiau Apple oddi ar iTunes.


Llun: Heulwen Morgan-Samuel, Lynsey Thomas a Dr Angharad Jones yn derbyn y wobr.