‘Adeiladau fel Gorsafoedd Pŵer’ un cam yn agosach

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r broses o greu adeiladau fel ‘gorsafoedd pŵer’ a all ddefnyddio ynni’r haul i greu, storio a rhyddhau eu hynni eu hun wedi dod cam yn agosach diolch i’r Ganolfan Adnoddau Gweithgynhyrchu Peilot a agorwyd heddiw yn SPECIFIC ym Maglan.

Edwina Hart starts pilot line

Defnyddir y ganolfan, sydd â’r nod o uwchraddio a masnacheiddio caenau ymarferol ar gyfer dur a gwydr, ac sy’n gartref i gyfleusterau labordy newydd a llinell brosesu newydd, i ddatblygu defnyddiau ar gyfer gweithgynhyrchu ac ar gyfer profi caenau a chynhyrchion.

Rhagwelir y bydd y technolegau sy’n cael eu datblygu gan SPECIFIC, ac sy’n cynrychioli newid mawr yn y modd y caiff ynni ei greu ar gyfer yr amgylchedd adeiledig, yn darparu buddion economaidd enfawr – diwydiant newydd gwerth £1biliwn gyda hyd at 10,000 o swyddi cadwyn cyflenwi – o bwysigrwydd cenedlaethol ac wedi’u lleoli yng Nghymru.

Mae’r ganolfan newydd wedi’i hariannu gan y Rhaglen Arbenigedd i Fusnesau (A4B), sy’n rhaglen gymorth chwe blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i gefnogi’r broses o drosglwyddo gwybodaeth o’r byd academaidd i’r byd busnes.

Pan agorodd y ganolfan yn swyddogol mewn digwyddiad heddiw, meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Mrs Edwina Hart “Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i brosiect SPECIFIC ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithrediadau diwydiannol ac academaidd  wrth fynd â’r gwaith hynod arloesol hwn yn ei flaen.

“Mae gan y ganolfan newydd y gallu i ddarparu datrysiadau masnachol ar gyfer partneriaid diwydiannol, creu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a fydd o fudd i gadwyni cyflenwi yng Nghymru a chreu eiddo deallusol gwerthfawr. Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r ganolfan adnoddau newydd hon sydd â gwir botensial i wneud cyfraniad arwyddocaol a sylweddol i’r agenda ynni lan a gwyrdd ac i economi ehangach Cymru.

“Mae’r ymchwil rhagorol sy’n cael ei wneud hefyd yn tynnu sylw at Gymru ac yn tanlinellu’r arbenigedd sydd gennym yng Nghymru.”

Bydd Canolfan Adnoddau Gweithgynhyrchu Peilot newydd SPECIFIC yn adeiladu ar ymchwil gychwynnol a wnaed gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC. Prifysgol Abertawe sy’n arwain prosiectau SPECIFIC, gyda chymorth gan ystod o bartneriaid diwydiannol gan gynnwys arweinwyr byd-eang megis Tata Steel, BASF ac NSG Pilkington yn ogystal â chwmnïau llai megis Gwent Electronic Materials, Harries Automation and Control Ltd a Greenbuild Consult.   

Meddai Kevin Bygate, Prif Weithredwr SPECIFIC, “Rydym yn falch o fod yn gweithio ar brosiect o arwyddocâd byd-eang gwirioneddol yma yn SPECIFIC. Rydym wedi gwneud cynnydd cyflym yn y broses o ddatblygu’n technolegau dros y blynyddoedd diweddar a chyda’r cyfleuster newydd hwn byddwn yn gallu cymryd y camau nesaf tuag at ddyfodol ynni adnewyddadwy newydd drwy ddod â nhw’n agosach at realiti masnachol.”