Actor o Gymru yn serennu mewn dathliad o fywyd Dylan Thomas yn Efrog Newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Darllenodd yr actor Michael Sheen rhai o’i hoff gerddi gan Dylan Thomas fel rhan o'r dathliadau yn Efrog Newydd i nodi canmlwyddiant genedigaeth y bardd.

Mae un o’r cerddi,Song, yn ymddangos am y tro cyntaf mewn rhifyn canmlwyddiant newydd o Collected Poems Dylan Thomas, a olygwyd gan yr Athro John Goodby o Brifysgol Abertawe, sy'n arbenigwr o fri rhyngwladol ar Thomas. Darllenodd Michael a John eu hoff gerddi mewn digwyddiad yn Bauman Rare Books yn Efrog Newydd.

Michael Sheen and Professor John Goodby Meddai Michael Sheen, sy’n Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe: "Mae bob amser yn anrhydedd, yn fraint ac yn bleser cynhyrfus i leisio geiriau Dylan Thomas, ond mae cael gwneud hynny ar ddiwrnod ei ganmlwyddiant yn gyfle go arbennig. Mae unrhyw gasgliad newydd o'i waith yn ddigwyddiad cyffrous, ac rwy'n hynod falch o allu bod yn rhan o hwn.”

Llun: Michael Sheen a'r Athro John Goodby

Meddai'r Athro Goodby, "Er yr holl fythau am Dylan Thomas, y peth pwysicaf am ei fywyd oedd ei farddoniaeth. Thomas oedd y bardd diwethaf o Brydain i gael effaith ar farddoniaeth Americanaidd, a'r beirniaid yn yr Unol Daleithiau oedd y cyntaf i ddeall coethder a chymhlethdod ei gerddi yn llawn. Mae'n briodol, felly, ac yn bleser gwirioneddol go iawn, gallu lansio rhifyn canmlwyddiant newydd Collected Poems ar ddiwrnod canmlwyddiant ei enedigaeth yn ninas Efrog Newydd. Mae'r pleser hwnnw'n fwy am i'r actor nodedig, Michael Sheen, a anwyd ac a fagwyd yn yr un rhan o Gymru â Dylan Thomas, wedi bod yma i ddarllen ei farddoniaeth gyda mi.

"Dyma'r lansiad gorau posib ar gyfer y rhifyn, sy'n dod â llinynnau amrywiol ysgrifennu barddoniaeth Dylan Thomas at ei gilydd am y tro cyntaf, o sgriptiau ffilmiau i gyfnodolion, cerddi tafarn i ganeuon Under Milk Wood, o destunau canonaidd i sgwibiau rhywiol, y'i bwriadwyd i ehangu cynulleidfa a dealltwriaeth o waith bardd gorau Cymru.

"Rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar i 'Bauman Rare Books' am ganiatáu i ni gynnal y digwyddiad canmlwyddiant yn y siop hardd hon.”