Ymchwilwyr Abertawe’n Adeiladu Ysgyfaint Artiffisial

Cafodd y gwaith o greu ysgyfaint artiffisial gan rai o ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sylw yn nogfen wyddonol, How To Build A Bionic Man ar Channel 4. Mi wnaeth y rhaglen bwysleisio sut mae modd cyfnewid rhannau o’r corff â darnau artiffisial gyda chymorth gwyddoniaeth.

Lung1

Yr Athro Rhodri Williams fu’n gyfrifol am ran o’r ymchwil diolch i nawdd gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol. Bu’n gyfrifol am ymchwilio mewn i lif hylifau cymwysiadau peirianyddol cymhleth.

Ar y cyd â’r Athro Adrian Evans o Goleg Meddygaeth y Brifysgol, sylweddolodd yr Athro Williams fod gan ei waith ym maes rheoleg gysylltiad clos â’r byd meddygaeth. O ganlyniad, gwnaethant ddatblygu synwyryddion er mwyn canfod ceulo’r gwaed abnormal, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mi wnaeth datblygu gwell dealltwriaeth o reoleg gwaed, yn arbennig felly’r problemau all godi o geulo’r gwaed, gyfrannu at ddatblygiad yr ysgyfaint artiffisial yma.

Mi wnaeth cydweithio pellach rhwng yr Athro Williams, yr Athro Evans, Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn ogystal â Haemir, cwmni sydd wedi’u lleoli yn Sefydliad Gwyddor Bywyd y Brifysgol arwain at greu’r ddyfais yn ogystal â datblygu ambell i brototeip. Mi wnaeth Haemair symud i Abertawe er mwyn manteisio ar arbenigedd y ddau Athro. Mi wnaeth y cynllun hefyd elwa o gyfleusterau a labordai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg / Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Bocs bach yw’r ddyfais sydd â phibellau sy’n galluogi’r gwaed i lifo. Y bwriad yw i gleifion sy’n dioddef o glefydau cronig megis emffysema, ffibrosis systig a chronig yr ysgyfaint wisgo’r ddyfais yn allanol er mwyn eu cynorthwyo i anadlu.

Yn ychwanegol, cafodd ei greu gyda’r bwriad o gynorthwyo cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth cardio-pwlmonaidd heb anghofio ceisio cadw’r rhai hynny sy’n aros am driniaeth mor iach â phosibl yn y cyfamser. Bydd cynorthwyo cleifion i anadlu’n well yn sicrhau bod modd cynnal mwy o drawsblaniadau ysgyfaint, paru gwell a graddfeydd goroesi uwch. 

Y gobaith hir dymor yw y bydd yn cael ei ddatblygu fel dewis arall i drawsblaniad. Mae nifer o gleifion yn marw ar hyn o bryd wrth aros am roddwr. O’r rhai hynny sy’n aros am drawsblaniad ysgyfaint heddiw, un y cant yn unig sy’n derbyn y driniaeth oherwydd prinder rhoddwyr.

Meddai’r Athro Rhodri Williams: ‘‘Mae gan y ddyfais yma’r potensial o gynorthwyo cleifion mewn angen. Heddiw, mae dyfeisiadau yn mynnu bod rhaid i’r cleifion dderbyn triniaeth yn yr unedau gofal dwys ac anadlu ocsigen. Yn y dyfodol, gall y ddyfais hon alluogi cleifion i dderbyn triniaeth adref, anadlu aer ac o bosib, rheoli’r ddyfais eu hunain.’’

Ychwanegodd yr Athro Bill Johns, Cyfarwyddwr Haemair: ‘‘Mae’n hanfodol bod y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol yn parhau i gefnogi gwyddoniaeth o’r fath a ddatblygir gan ymchwilwyr fel yr Athro Williams - does ŵyr pa ganlyniadau ymarferol a ddaw yn ei sgil.’’

Mae Adrian Evans yn Athro Meddygaeth Brys a Gwaedatalfa (ceulo’r gwaed a ffyrdd eraill y mae’r corff yn stopio gwaedu’n ormodol). Gwaith yr Athro Evans oedd darganfod modd o reoli’r gwaed rhag ceulo wedi iddo adael y corff - rhan allweddol o geisio sicrhau bod yr ysgyfaint artiffisial yn gweithio’n effeithiol.