Y Brifysgol yn cynnal yr 17eg Gynhadledd Ryngwladol ar Ymarfer Myfyriol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe gyda'i gilydd yn cynnal yr 17eg Gynhadledd Ryngwladol ar Ymarfer Myfyriol tri diwrnod o hyd ym mis Medi.

Gyda chyflwynwyr yn dod o lefydd mor bell ag Awstralia, Japan ac UDA, mae gan y gynhadledd ganolbwynt rhyngwladol gwirioneddol a bydd yn cynnwys darlithoedd cyweirnod gan academyddion ymarfer myfyriol adnabyddus.


Dyddiad: Dydd Llun 9fed tan ddydd Mercher 11eg Medi 2013

Lleoliad:  Neuadd Sgeti, Abertawe


Themâu: Gellir diffinio ymarfer myfyriol fel 'y broses o ddysgu drwy ac oddi wrth', ac mae themâu'r gynhadledd yn cynnwys Addysg a Dysgu Rhyngbroffesiynol; Datblygu Arweinyddiaeth trwy Ymarfer Myfyriol; Mynegi Myfyrio; Hunaniaeth Broffesiynol.

Siaradwyr:  Mae'r prif siaradwr yn cynnwys Dr Janette Wetsel, Prifysgol Ganolog Oklahoma, UDA, a'r Athro Melanie Jasper, yr Athro Judy McKimm, a'r Athro Gary Rolfe, Prifysgol Abertawe, a'r siaradwr ysgogiadol rhyngwladol Rosie Swale Pope MBE.


Journal of Reflective Practice: Bydd y gynhadledd hefyd wedi'i chysylltu'n agos â'r cylchgrawn rhyngwladol amlddisgyblaethol, Journal of Reflective Practice. Ar ôl y gynhadledd, caiff rhifyn arbennig o'r cylchgrawn ei ryddhau i hysbysebu'r digwyddiad; bydd hyn yn caniatáu cyhoeddi'r prif siaradwyr a phapurau craidd mewn cylchgrawn sydd wedi'i gydnabod ar hyn o bryd yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).

Caiff crynodebau detholedig a phapurau llawn eu cyhoeddi mewn rhifyn ychwanegol o'r International Reflective Journal, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2013.