Y Brifysgol yn croesawu cydweithwyr o Tsieina am ail Gynhadledd Mecaneg Gyfrifiadurol ar y Cyd Abertawe-Tsinghua

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd ail Gynhadledd Mecaneg Gyfrifiadurol ar y Cyd Abertawe-Tsinghua - cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Tsinghua yn Beijing, Tsieina - ei chynnal yr wythnos hon (Gorffennaf 22-23) yng Ngholeg Peirianneg Abertawe.

Tsinghua2013 groupWedi'u harwain gan yr Athro Zhuo Zhuang, Deon Ysgol Awyrofod Prifysgol Tsinghua, mynychodd tîm o wyth o ymchwilwyr academaidd o Tsinghua y gweithdy a gynhaliwyd yng Ngholeg Peirianneg y Brifysgol, ac a gyflwynwyd gan yr Athro Javier Bonet, Pennaeth y Coleg.

Roedd yr ymchwilwyr o Tsinghua'n cynnwys yr Athro Xiong Zhang, Dirprwy Bennaeth yr Adran Peirianneg Awyrofod ac Astronoteg, yr Athro Chunxiao Xu, Pennaeth y Sefydliad Mecaneg Hylifau, a'r Athro Yinghua Liu, Dirprwy Bennaeth y Sefydliad Mecaneg Solidau.

Yn ystod y gweithdy dau ddiwrnod o hyd, rhoddwyd dros 20 o gyflwyniadau ymchwil gan academyddion o'r naill sefydliad, yn ymdrin ag ystod eang o waith ymchwil ym maes mecaneg gyfrifiadurol a pheirianneg gyfrifiadurol, gan gynnwys modelu corfforol ar gyfer gemau a ffilmiau, dynameg hylifau cyfrifiadurol, peirianneg biomeddygol cyfrifiadurol, modelu llongau awyr sy'n morffio, dulliau elfennau cyfyngedig a dulliau seiliedig ar ronynnau.

Rhoddodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe'r araith groeso yn nigwyddiad agor swyddogol y gweithdy.

"Roedd yn bleser mawr croesawu ein gwesteion o fri o Brifysgol Tsinghua i Abertawe," meddai'r Athro Davies.

"Roeddwn wrth fy modd yn clywed am y cydweithrediadau ymchwil llwyddiannus rhwng y Coleg Peirianneg ac Ysgol Awyrofod Prifysgol Tsinghua. Mae cydweithrediadau ymchwil effeithlon wedi'u hadeiladu ar gyfeillgarwch ac ymddiriedolaeth, a gwelais hynny rhwng ein gwesteion a'm cydweithwyr yn y Coleg Peirianneg."

Mae gan Brifysgol Tsinghua dros 25,900 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac mae wedi'i hystyried yn eang fel y brifysgol orau yn Tsieina. Caiff ei graddio'n gyson yn rhyngwladol ymhlith 50 prifysgol orau'r byd.

Sefydlwyd y Brifysgol ym 1911, a lleolir ei champws ar gyn erddi ymerodrol y Frenhinlin Qing, ac fe'i hamgylchynir gan nifer o safleoedd hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Beijing.

Cynhaliwyd y Gynhadledd Mecaneg Gyfrifiadurol ar y Cyd Abertawe-Tsinghua gyntaf yn Tsinghua ym mis Gorffennaf 2011, lle y bu tîm o naw ymchwilydd academaidd o Abertawe'n bresennol.

Ychwanegodd yr Athro Javier Bonet, Pennaeth y Coleg Peirianneg, a arweiniodd dirprwyaeth Abertawe i Tsieina yn 2011: "Roeddem yn falch iawn i gynnal yr ail weithdy rhwng Abertawe a Tsinghua yn Abertawe. Yn dilyn llwyddiant y gweithdy cyntaf yn 2011, mae nifer o gydweithrediadau ymchwil wedi'u cychwyn a'u rhoi ar waith rhwng y ddau sefydliad.

"Mae'r rhain yn cynnwys datblygu cyfres o brosiectau ymchwil ar y cyd a ariannir gan y Gymdeithas Frenhinol, Yr Academi Frenhinol Peirianneg, Sefydliad Gwyddoniaeth Naturiol Cenedlaethol Tsieina (NSFC), Cyngor Ysgolheictod Tsieina a'r Cyngor Prydeinig.

"Mae Tsinghua wedi ymuno fel prif bartner yn Rhaglen Mecaneg Gyfrifiadurol MSc Erasmus Mundus, a arweinir gan Brifysgol  Abertawe ac Universitat Politècnica de Catalunya, Sbaen, sy'n hwyluso rhaglenni cyfnewid ar gyfer myfyrwyr gradd Meistr ac sy'n dyfarnu gradd MSc ar y cyd rhwng  Prifysgol Abertawe, Prifysgol Tsinghua, Universitat Politècnica de Catalunya, École Centrale de Nantes, Ffrainc, a Phrifysgol Stuttgart, yr Almaen.

"Rydym hefyd wrth ein bodd â lansiad y rhaglen Cyfnewid Ymchwil mewn Peirianneg newydd i Fyfyrwyr Ôl-raddedig, sy'n hwyluso cyfnewidiadau ymchwil PhD rhwng myfyrwyr o Brifysgolion Abertawe a Tsinghua.

"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithrediadau ymchwil llwyddiannus, parhaus rhwng ein dau sefydliad."

Meddai'r Athro Zhuo Zhuang, Deon Ysgol Awyrofod Prifysgol Tsinghua: "Gwnaeth y gweithdy Tsinghua-Abertawe cyntaf nodi dechrau'r berthynas ymchwil rhwng ein sefydliadau. Mae'r bartneriaeth ymchwil gref hon wedi'i chryfhau ymhellach yn yr ychydig ddiwrnodau diwethaf yn ystod yr ail weithdy ac rydym wedi mwynhau pob agwedd o'n hymweliad â Phrifysgol Abertawe.

"Mae nifer o gydweithrediadau ymchwil ar y gweill, ac mae mentrau cydweithio pellach wedi'u datblygu, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i wahodd ein cydweithwyr o Abertawe i ymweld â ni yn Tsinghua yr haf nesaf ar gyfer y trydydd weithdy Tsinghua-Abertawe."

Rhaglen Cyfnewid Ymchwil Ôl-raddedig mewn Peirianneg Abertawe-Tsinghua

Mae Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi sefydlu rhaglen Cyfnewid Ymchwil Ôl-raddedig newydd mewn Peirianneg yn ddiweddar gyda Phrifysgol Tsinghua. 

Yn rhan o'r rhaglen bum mlynedd newydd, a ddechreuodd y mis diwethaf, bydd hyd at chwe myfyriwr PhD fel man cychwyn yn cael eu cyfnewid bob blwyddyn, am gyfnod o chwe mis i flwyddyn, ym meysydd ymchwil awyrofod, ynni, a chyfrifiadureg.

Mae'r rhaglen newydd yn cael ei gyrru yn ei blaen gan y cydweithredu ymchwil parhaus rhwng y ddwy brifysgol hefyd - yn benodol, y Rhaglen Cyfnewid Ymchwil PhD rhwng Tsieina a'r DU, a ariennir gan y Cyngor Prydeinig a Chyngor Ysgolheictod Tsieina.

Dywedodd Dr Chenfeng Li, cydlynydd y rhaglen yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Heb os nac oni bai, Prifysgol Tsinghua yw prifysgol orau Tsieina, ac mae ganddi gryfder mawr o ran peirianneg a thechnoleg, ac mae Prifysgol Abertawe yn arwain y byd ym maes mecaneg gyfrifiadurol a pheirianneg gyfrifiadurol.

"Mae'r bartneriaeth strategol hon yn dod â chryfderau cyflenwol y ddau sefydliad at ei gilydd. Mae hynny'n caniatáu cynnal ymchwil o safon uchel yn fwy effeithlon, ond mae hefyd yn esgor ar gyfleoedd newydd am gydweithio rhyngwladol."