Trowch, trowch, trowch: mae rheswm i bopeth!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe wedi datgelu ffaith sy'n torri tir newydd, sef y gall symudiadau gan anifeiliaid a bodau dynol arwain at golli symiau sylweddol o egni.

Mae'r tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Roehampton, Llundain ac Universidad Nacional del Comahue, yr Ariannin wedi dangos mewn papur a gyhoeddwyd gan Ecology Letters y mae anifeiliaid a bodau dynol, wrth droi, yn defnyddio egni sy'n effeithio ar ymddygiad.

Turn Large Bird

Mae ymchwilwyr Biowyddoniaeth, Cyfrifiadureg, Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos bod adar megis condoriaid sy'n newid cyfeiriad yn rheolaidd ac, ar brydiau, yn anrhagweladwy, yn gwneud hynny ar gost bendant iddynt o safbwynt egni; rhaid adennill yr egni hwn a gollwyd trwy ddod o hyd i ragor o fwyd neu aer sy'n codi, fel y ceir mewn patrymau thermol, i'w galluogi i adennill uchder.

 

 

Yn groes i loerenni sy'n gallu troi o amgylch y Ddaear am gyfnodau estynedig mewn cylchdroadau caeedig heb golli egni, mae'n rhaid i anifeiliaid ar y Ddaear newid cyfeiriad gan ddefnyddio grymoedd ffrithiant neu rymoedd llusg hylif i oresgyn y tueddiad naturiol i barhau mewn llinell syth.  Mae lloerenni'n symud ym maes potensial disgyrchiant y Ddaear ac yn agored i'r hyn a elwir yn ffiseg fel grym 'ceidwadol'; mewn geiriau eraill, mae'r egni a gollir mewn cylchred yn cyfateb i sero. Yn achos anifeiliaid ar y llaw arall, y canlyniad anochel yw bod rhaid iddynt weithio i newid cyfeiriad trwy unrhyw ongl ddymunol neu i symud mewn llwybr neu segment cylchol. Ymddengys bod gwyddonwyr wedi hepgor y ffaith hon ers y datblygiadau cynharaf ym maes mecaneg gan Galileo, Kepler a Newton.

Turn Footballer

Bydd angen ail archwilio gweithgareddau chwaraeon dynol sy'n cynnwys newid cyfeiriad yn gyflym megis pêl-droed, tenis ayyb i weld yr effaith ar strategaeth a hyfforddiant.

 

 

 

Er ei fod yn ymddangos yn amlwg, mae dangos y ffased hwn o symudiad ymhlith anifeiliaid wedi'i rhwystro gan yr ystyriaethau mwy cymhleth sydd eu hangen i fodelu symudiadau anifeiliaid sy'n byw ar y tir, yn ogystal â physgod, adar, ayyb. Mae'r papur gan Wilson et al yn Ecology Letters yn adrodd modelau damcaniaethol o batrymau hedfan adar yn ogystal â thystiolaeth empirig yn seiliedig ar symudiadau troi dynol a'r defnydd cyfatebol o egni, sy'n golygu bod y casgliadau y tu hwnt i amheuaeth. Bydd y canlyniad newydd yn effeithio ar sawl astudiaeth ym maes systemau biolegol a hefyd yn chwyldroi astudiaethau gwyddor chwaraeon ar gyfer pob math o chwaraeon tîm sy'n cynnwys troi, gyda phêl-droed yn un enghraifft yn unig.