Timoedd Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Abertawe yn derbyn cydnabyddiaeth drwy Wobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Adrannau'r Gofrestrfa Academaidd, Gwasanaethau Myfyrwyr a Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid Swyddfa'r Cabinet a roddir i gydnabod unigolion neu dimoedd sydd wedi mynd yr ail filltir i ddarparu Gwasanaeth rhagorol i Gwsmeriaid

Seiliwyd y Wobr ar ddogfennaeth a gyflwynwyd, yn ogystal ag ar ymweliad dau ddiwrnod ym mis Mawrth. Roedd yr asesiad yn cynnwys cyfweliadau gyda myfyrwyr, staff, a phartneriaid allanol y Brifysgol i sicrhau ein bod wedi cyrraedd y safon ofynnol mewn pum maes: 

  • Mewnwelediad Cwsmeriaid
  • Diwylliant y Sefydliad
  • Gwybodaeth a Hygyrchedd
  • Darpariaeth
  • Prydlondeb ac Ansawdd y Gwasanaeth.


Meddai Raymond Ciborowski, Cofrestrydd Prifysgol Abertawe: "Rydym yn falch iawn bod staff o'n Prifysgol wedi'u cydnabod eto ar gyfer y wobr hon. Roedd ein Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth yn un o nifer bach o lyfrgelloedd prifysgol a gwasanaethau TGCh yn y DU a enillodd y Wobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn ôl yn 2007. Nawr mae ein Timoedd Gwasanaethau Proffesiynol wedi dangos eu bod nhw hefyd yn gallu darparu gwasanaeth rhagorol. Y wobr yw'r cyntaf o'r fath i Brifysgol o Gymru ac mae'n amlygu'r gwasanaeth gwych i gwsmeriaid y mae'r timoedd yn eu darparu drwy gydol y flwyddyn i'n cymuned academaidd.”