Tîm Discovery yn Taclo Newyn Byd Eang

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cymerodd rai o staff a myfyrwyr elusen Discovery ym Mhrifysgol Abertawe ran mewn sialens arbennig wythnos diwethaf o’r enw ‘Live below the Line.’

Y dasg oedd ceisio byw ar £1 y dydd am bum niwrnod er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa druenus sy’n bodoli ym maes dosbarthu bwyd byd eang.

DiscoveryBreakfast

Yr wythnos flaenorol, mi wnaeth Discovery drefnu brecwast i bawb ar y campws er mwyn cefnogi ymgyrch ‘Enough Food for Everyone IF.’

Mae’r ymgyrch yn un cenedlaethol a gefnogir gan dros 100 o elusenau Prydain Fawr gan gynnwys Oxfam, Cymorth Cristnogol ag Unicef. Eu nod yw mynd i’r afael â newyn byd eang.

Cafodd Partneriaeth Abertawe-Siavonga ei sefydlu dair blynedd yn ôl o dan adain Discovery SVS. Bydd staff a myfyrwyr Discovery yn teithio i Siavonga, de Zambia dros yr haf er mwyn datblygu cysylltiadau yn y cymunedau.

Lansiwyd cynllun ysgoloriaeth arbennig yn ddiweddar sy’n fwriadu galluogi mwy o bobl ifanc i fentro i’r byd addysg, yn enwedig merched gan bod ganddynt hwy ran allweddol i’w chwarae wrth ddatblygu a gwella’r ardal yn economaidd.

Gobaith y bartneriaeth yw gwella’r cysylltiad rhwng trigolion Siavonga a phobl Bae Abertawe hefyd.

Meddai Christine Watson, Pennaeth Discovery a Chyfarwyddwr Cynllun Siavonga-Abertawe: "Mae bod yn rhan o Bartneriaeth Siavonga Abertawe yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd yn ogystal â chreu atgofion gwerthfawr. Mi wnaeth y sialens eu cynorthwyo i gael blas o fywyd rhai o ferched a phlant Siavonga, lle mae prinder bwyd yn broblem enfawr."

Llun: Y brecwast a drefnwyd gan Discovery ar gampws y Brifysgol