Teyrnged i gyn Athro’r Gymraeg, D. Ellis Evans

Bu farw’r Athro D. Ellis Evans, cyn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac aelod o staff y Brifysgol rhwng 1957 a 1987. Roedd yn 83 oed.

Talwyd teyrnged iddo gan Yr Athro Tudur Hallam, Athro’rGymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.

“Tristwch mawr oedd clywed am farw’r Athro D. Ellis Evans, meddai’r Athro Hallam.

“Mae cyswllt Adran y Gymraeg â’r teulu’n para’n agos, a chydymdeimlwn â nhw yn eu colled.

 “Yn ddeiliad dwy Gadair ac yn Gymrawd i’r Academi Brydeinig, cafodd yrfa academaidd nodedig a bu’n hael ei gymwynas i nifer o ysgolheigion a myfyrwyr.”

Ganwyd David Ellis Evans yn 1930. Roedd yn hanu o Ddyffryn Tywi, yn Sir Gaerfyrddin, a mynychodd Ysgol Ramadeg Llandeilo cyn mynd yn ei flaen i astudio yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a derbyn doethuriaeth o’r Coleg. Bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 1957 a 1978 gan esgyn yn Athro yn yr Adran Gymraeg yno.

Wedi hyn, dychwelodd i Brifysgol Rhydychen i’r Gadair Geltaidd, gan ddod yn Athro Gymrawd yng Ngholeg yr Iesu. Fe’i penodwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig ym 1983. Traddododd Ddarlith Goffa Syr John Rhys yr Academi yn 1977. Ymddeolodd yn 1996.

Ei ddiddordeb pennaf oedd y diwylliant Celtaidd cynnar yn Ewrop ac fe gyhoeddwyd cyfrol o draethodau er anrhydedd iddo gan gyd-academyddion Celtaidd ar ei ben-blwydd yn 65 oed yn 1995. Un o’i gyfraniadau pwysicaf oedd y gyfrol Gaulish Personal Place Names (1967).