Technegau mapio daearyddiaeth yn taflu goleuni newydd ar ddefnydd yr iaith Gymraeg

Mae modd defnyddio dulliau mapio’r byd daearyddiaeth i’n helpu i ddeall y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddefnydd yr iaith Gymraeg, a chynllunio’n ofalus i newid arferion siaradwyr Cymraeg.

Dyna ddadl y daearyddwr, Yr Athro Rhys Jones, fydd yn cyflwyno Darlith Goffa Henry Lewis ar ‘Ddaearyddiaethau’r Iaith Gymraeg’ yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe fory (Nos Fawrth, Hydref 8fed, 6pm).

Dywed fod modd defnyddio’r technegau hyn i ehangu ein dealltwriaeth o’r hyn yw daearyddiaeth iaith gan greu darlun manwl, er engraifft o effaith negyddol a chadarnhaol datblygiadau fel tai, priffyrdd a lleoliad ysgolion ar yr iaith.

“Ers y 1950au, mae’r gwaith ymchwil ar sefyllfa’r iaith Gymraeg wedi canolbwyntio ar ddefnyddio ffigurau’r cyfrifiad i ddangos y ‘sifft’ sydd wedi bod yn yr iaith yn y cadarnleoedd, ac i greu mapiau o’r newidiadau yn nifer y siaradwyr Cymraeg, a’r defnydd o’r Gymraeg,” meddai Yr Athro Rhys Jones, sydd yn dod yn wreiddiol o Lanelli.

“Er bod rôl i hyn, rwy’n dadlau bod angen meddwl am ddaearyddiaeth yn ehangach a sut allwn ni ddefnyddio technegau mapio ystadegol manwl iawn, yn cynnwys lleoliad tai, priffyrdd, diwydiannau ac ysgolion i ddeall a dadansoddi dylanwad y ffactorau hyn ar ddefnydd y Gymraeg.”

Mae Rhys Jones yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Y Strade, Llanelli.

Wrth drafod pwnc ei ddarlith dywed ei fod yn cytuno â sylwadau diweddar Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ynglŷn â phwysigrwydd edrych ar ddefnydd yr iaith. Mae am weld mwy o ymchwil i’r hyn sy’n dylanwadu ar siaradwyr Cymraeg i beidio â defnyddio’r Gymraeg, a sut i newid yr amgylchiadau er mwyn torri ar eu harferion.

“Mae potensial i ddefnyddio technegau i newid ymddygiad pobl, er enghraifft fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar yng Nghymru gyda rhoi organau, lle mae polisïau wedi eu fframio er mwyn newid neu roi ‘hwb’ i ymddygiad. Rwy’n credu bod modd i ni wneud yr un peth gyda’r defnydd o’r iaith, a newid amgylchiadau er mwyn newid arferion pobol.

“Ar lefel syml iawn, mae defnyddio bathodynnau sy’n dangos siaradwyr Cymraeg mewn siopau neu mewn ysbytai yn gallu annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Mae angen mwy o syniadau cynnil fel hyn i arwain pobol i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae astudio daearyddiaeth yr iaith yn bwysig, ond mae angen meddwl hefyd beth all daearyddiaeth ei gyfrannu at newid defnydd o’r Gymraeg.”

Mae’r ddarlith yn coffau Henry Lewis, Athro cyntaf y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 1921. Roedd yn adnabyddus fel ieithydd ac am ei gyfraniad at hanes yr iaith Gymraeg a’i gyhoeddiad pwysig Datblygiad yr Iaith Gymraeg. Trefnir y Ddarlith gan Academi Hywel Teifi a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe: “Mae Darlith Goffa Henry Lewis yn adlewyrchu traddodiad hir Prifysgol Abertawe fel canolfan ragoriaeth ymchwil i’r iaith Gymraeg, sy’n parhau heddiw yn Academi Hywel Teifi, a’r mawrion a fu’n rhan o fywyd academaidd ein Prifysgol. Rydym ni’n falch iawn o roi llwyfan i drafodaeth amserol am yr iaith Gymraeg heddiw, ac i ddod â gwahanol ddisgyblaethau at ei gilydd, i daflu goleuni newydd ar y maes.”

Darlith goffa Henry Lewis, Dydd Mawrth 8 Hydref, 6pm Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe.

Mynediad yn rhad ac am ddim, a chroeso i bawb. Darlith Gymraeg gydag offer cyfieithu ar y pryd ar gael. Trefnir gan Academi Hywel Teifi a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe.