Swansea Review rhif 3 ar gael nawr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhifyn diweddaraf cylchgrawn blynyddol ar-lein y rhaglen Ysgrifennu Creadigol, y Swansea Review, ar gael nawr. Mae'r rhifyn hwn wedi'i olygu gan Dr Alan Bilton a Dr Anne Lauppe-Dunbar, ac mae'n gyfuniad berw o waith gan staff Ysgrifennu Creadigol a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe.

Yn ôl cyflwyniad bywiog Alan: “Raison d’être y 'review' yw dangos gwaith awduron a myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r rhaglen Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac ar yr un pryd i ymestyn allan i gyflwyno gwaith trawiadol a gwreiddiol o ledled y byd   ... Eleni, mae gyda ni ddynion eira â'u calonnau wedi'u torri, pianos sy'n bwyta pobl, haiku Cymraeg, ysbrydion, broga-bysgod, a gwleidyddiaeth Arab-Israeli: coeliwch fi - ble arall gewch chi hyn i gyd?  Rydym hefyd yn falch o gynnwys cyfweliad gyda Chymrawd Ysgrifennu Brenhinol y Brifysgol, Dr. Gwyneth Lewis, adolygiad o gynhyrchiad hynod lwyddiannus D.J. Britton o 'The Wizard, The Goat, and The Man who Won the War' yn Singapore, a straeon byr newydd gan yr Athro Stevie Davies (yr enwebai Booker o blith ein staff ein hunain), Kate Brown, yr awdur sy'n byw yn Berlin, a Tania Hershman, awdur ffuglen fflach gorau Prydain .... Mae pair Abertawe'n byrlymu ag egni creadigol - mae rhywbeth yn bendant yn y dŵr (neu efallai'r glaw).

Lansiadau, darlithoedd, gweithdai, gwyliau, darlleniadau, dramâu: dim syndod bod staff addysgu’r Brifysgol yn ei chael hi mor anodd i ddod o hyd i'r amser i wneud gwaith pwysig megis gweinyddiaeth a llungopïo taflenni. Beth bynnag, maent yn brwydro ymlaen, yn nofio yn erbyn y don, yn cael eu cario'n ôl i'r lan yn ddi-ffael ... Dyna Abertawe, felly, yn fath ar ddrws cylchdroi ar gyfer cymeriadau llenyddol, Bohemaidd (go brin fod modd symud modfedd heb faglu dros Jon Gower, er enghraifft).  Ond mae bob amser yn galonogol i groesawu'n eu hôl graddedigion y rhaglen Ysgrifennu Creadigol, yn dychwelyd o'u hanturiau ar foroedd garw'r byd cyhoeddi go iawn.

Dewiswyd haibun Jane Fraser ‘Urodynamics’ yn enillydd gwobr Haiku Prydain 2012, ac mae stori fer Dave Shannon wedi cyrraedd rhestr hir Uned Straeon Byr y BBC. Mae Roshi Fernando (cyhoeddir ei gwaith hi gan Bloomsbury a Knopf) wedi rhoi'n hael o'i hamser i gynnal dosbarthiadau Stori Fer (a hynny gyda therfyn amser newydd ar y gorwel!), ac mae Jennifer Cryer, awdur Breathing on Glass, wedi siarad â myfyrwyr am ei phrofiadau gyda golygyddion, cyhoeddwyr, a darllenwyr.  Perfformiwyd gwaith E.S.G. Wride yn Abertawe, mae Al Kellerman bellach yn olygydd barddoniaeth Parthian, ac mae nofel gyntaf fy nghyd-olygydd disglair, Anne Lauppe-Dunbar, sef Dark Mermaids wedi cael ei derbyn gan un o asiantau gorau Llundain. Mae'r cyfan yn dweud: nid rhoi'ch traed yn y drws yw'r rhaglen Ysgrifennu Creadigol cymaint â gwthio'r ddolen, canu'r gloch, tynnu'r cortyn ... ond dyna ddigon o ystrydebu.

Bydd y Swansea Review yn ôl y flwyddyn nesaf - sy'n digwydd bod yn ganmlwyddiant rhyw foi o'r enw Thomas. Cofiwch: dim ond un osgo sydd i artist, lle bynnag y bo: unionsyth. Trafodwch.”

E-bost: A.M.Lauppe-Dunbar@abertawe.ac.uk