Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Roedd staff a myfyrwyr yn falch o glywed bod John Smith's yn mynd i agor siop lyfrau newydd ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe.
Dyma siop gyntaf John Smith's yng Nghymru. Fe'i lleolir ar lawr gwaelod Canolfan Celfyddydau Taliesin, a bydd yn agor ddydd Llun 23 Medi.
Dywedodd Nanele Lewis, Rheolwr Gwasanaethau'r Campws: "Rydym yn hynod o falch o groesawu John Smith's i'r Brifysgol i ddarparu siop lyfrau ar y campws. Bydd John Smith's yn gwerthu llyfrau, wrth gwrs; ond bydd hefyd yn cynnig ystod eang o gynnyrch eraill, a gwefan bwrpasol i ddiwallu anghenion ein myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw ac at ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd."
Wrth gyfeirio at y fenter newydd hon, dywedodd Peter Grey, Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp JS: "Mae Prifysgol Abertawe ymhlith prifysgolion mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig, ac rydym yn falch o'n partneriaeth gyda'r Brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael ar y llyfrau, yr offer TG a'r defnyddiau dysgu eraill sydd eu hangen arnynt i lwyddo, ar y campws. Mae'r Brifysgol wedi bod o gymorth mawr, ac yn rhagweithiol iawn wrth ein helpu i agor y siop hon, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi am flynyddoedd lawer i ddod."
Mae Group JS yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig yn bennaf, ac mae ei bresenoldeb yn Affrica'n tyfu'n gyflym. Mae'n diwallu anghenion y sectorau addysg a gwasanaethau proffesiynol.
Busnesau addysg uwch y grŵp yn y Deyrnas Unedig yw John Smith's, ac Aspire. John Smith's yw'r siop fanwerthu i brifysgolion sy'n darparu mynediad atyniadol ar y safle at lyfrau cwrs, meddalwedd, cyfrifiaduron, gliniaduron a chyfrifiaduron tabled, ac ystod o nwyddau a gwasanaethau eraill a ddyluniwyd i ddiwallu anghenion myfyrwyr. Aspire yw'r system rheoli bwrsariaethau a ddefnyddir gan brifysgolion i gyfoethogi profiad myfyrwyr, ac mae ar flaen y gad yn y maes.
Oriau agor y siop fydd 9.00 tan 17.30, ond bydd yn agor yn hwyrach yn ystod y cyfnodau masnachu prysuraf.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Claire Rowe yn: Claire.rowe@johnsmith.co.uk
- Dydd Iau 19 Medi 2013 13.37 BST
- Dydd Iau 19 Medi 2013 13.45 BST
- Swansea University, Ffôn: 01792 295050