Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Teitl y Ddarlith: Diffinio Pwerau Deddfu’r Cynulliad - Cwpan Hanner Llawn neu Gwpan Hanner Gwag?
Siaradwyr: Mr Keith Bush (Cyn-Brif Gynghorwr Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymrawd Ymchwil Mygedol, Sefydliad Ymchwil Hywel Dda) a’r Athro Timothy Jones, Athro mewn Cyfraith Gyhoeddus, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Chwefror 2013
Amser: 1.00yp
Lleoliad: Ystafell Eirioli, Ysgol y Gyfraith, Adeilad Richard Price, Prifysgol Abertawe
Mynediad: Am ddim a chroeso cynnes i bawb
Crynodeb o’r digwyddiad:
Y mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) wedi ei sefydlu i adolygu’r drefn gyfansoddiadol ac ariannol presennol yng Nghymru. Ac yntau wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar bwerau ariannol, mae’r Comisiwn nawr wedi cychwyn gweithio ar Ran II ei gylch gorchwyl, sef adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, bydd y seminar hwn yn gyfraniad amserol i’r drafodaeth ar gymhwyster deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
I ddilyn, bydd trafodaeth banel wedi ei chadeirio gan Yr Athro R Gwynedd Parry (Athro Cyfraith a Hanes Cyfreithiol a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel Dda).
- Dydd Iau 14 Chwefror 2013 13.51 GMT
- Dydd Mercher 11 Medi 2019 15.31 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 513454