Prosiect amserol yn bwrw goleuni ar gartwnau’r Rhyfel Byd Cyntaf

Gwaith Rhyfel Byd Cyntaf un o gartwnyddion papur newydd mwyaf dylanwadol Cymru, J M Staniforth (1863-1921), fydd ffocws prosiect digidol dychmygus a arweinir gan Brifysgol Abertawe ac sydd wedi cael cymorth grant bron i £70,000 gan CDL.

JM Staniforth cartoonMae Staniforth yn fwyaf adnabyddus am ei waith gyda'r Western Mail. Cynhyrchodd ddarluniau dyddiol i'r papur yn ystod y rhyfel, gan bortreadu agweddau Cymru tuag at y gyflafan. Roedd hefyd yn enwog am greu 'Mam Cymru' - gwraig ganol oed mewn gwisg Gymreig a oedd yn symbol o Gymru yn yr un ffordd ac yr oedd Britannia a John Bull yn cynrychioli Prydain Fawr.

Am y tro cyntaf, fel rhan o brosiect Creu Cartwnau o'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, sy'n ymestyn dros ddigwyddiadau coffáu canmlwyddiant dechrau’r rhyfel y flwyddyn nesaf, bydd holl gasgliad rhyfel Western Mail Staniforth yn cael ei atgynhyrchu ar wefan newydd.

Bydd hyd at 1,350 o ddelweddau digidol o’r cartwnau yn cael eu cyflwyno, ynghyd â chyd-destun am eu cefndir a sylwadau. Bydd cartwnau a ymddangosodd mewn cyhoeddiadau eraill, gan gynnwys News of the World, hefyd yn cael eu cynnwys ar y wefan.

Y hanesydd Cymreig a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau Prifysgol Abertawe, yr Athro Chris Williams, fydd yn arwain y prosiect.

Prof Chris WilliamsMeddai’r Athro Williams: "Ar adeg pan oedd y Western Mail yn brif ffynhonnell newyddion rhyngwladol a Chymreig i bobl De Cymru, roedd Staniforth yn gymeriad aruthrol o ddylanwadol.

"Mae cartwnau Staniforth ar gyfer y papur yn ystod y rhyfel yn gofnod arbennig o ymateb greadigol un dyn i'r gwrthdaro. Er ei fod ar adegau yn defnyddio hiwmor er mwyn cyfleu ei neges, ar y cyfan roedd ei waith yn ddifrifol ei natur, gan ddarparu sylwebaeth ddyddiol ar gynnydd y rhyfel yn Ffrainc ac yn Fflandrys. Gwelodd fod ganddo ddyletswydd i godi calon ac ysgogi cefnogaeth gyhoeddus a chred yn y rhyfel.”

Bydd yr Athro Williams yn gweithio’n agos gyda Dr Angela Gaffney o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â phartneriaid eraill, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymdeithas y Western Front, Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig a’r Gymdeithas Hanesyddol er mwyn cyflenwi'r prosiect.

Bydd hyd at 30 o wirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi mewn technegau i drosglwyddo'r cartwnau'n ddigidol a’u ‘glanhau’, gan hefyd ymchwilio i'r cyfnod a chofnodi ymateb pobl i'r cartwnau. Bydd tua 80 o israddedigion Adran Hanes a'r Clasuron Prifysgol Abertawe hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect.

Bydd cyfres o sgyrsiau cyhoeddus yn cael eu cynnal ledled Cymru, a bydd adnoddau addysgol yn cael eu cynhyrchu. Bydd y prosiect yn cyrraedd ei anterth gyda chynhadledd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe fis Medi 2014.

Wrth groesawu'r prosiect, dywedodd Y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae'r cartwnau hyn yn creu darlun unigryw o Gymru ar adeg o dryblith a galar enbyd ac rwy'n falch iawn y byddant ar gael i bawb eu gweld cyn hir. Er bod gwaith Staniforth yn cael ei ddisgrifio fel 'cartwnau', ni ddylai hyn ddibrisio eu gwerth. Fe wnaeth ei ddychan adlewyrchu gwrthdaro a wnaeth ein llunio ni fel cenedl. Maent gyn bwysiced ag erioed wrth i ni baratoi i goffáu’r canmlwyddiant ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf."

Ychwanegodd yr Athro Williams: "Wrth i ni agosáu at ganmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014, bydd diddordeb brwd gan y cyhoedd yn y cyfnod hwn. Mae'r prosiect yn cynnig cyfle amserol i ennyn persbectif newydd ar agweddau tuag at y rhyfel ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a fydd yn helpu i ddod â gwaith Staniforth i’r amlwg unwaith yn rhagor."

Dywed Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru: "Rydym wrth ein bodd i gefnogi’r prosiect hynod hwn a fydd yn rhoi casgliad treftadaeth unigryw ar-lein er mwyn i bawb ei ddefnyddio a'i fwynhau wrth i ddiddordeb yn y Rhyfel Byd Cyntaf dyfu.

"Drwy waith Staniforth, bydd Creu Cartwnau o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ymchwilio i agweddau ac ymateb gyffredinol i'r rhyfel, gan alluogi dealltwriaeth well i'r cyhoedd o'r cyfnod cythryblus hwn."


Llun: Un o gartwnau Staniforth 'Galwad am gwladgarwch' - 4 Awst 1914.