Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda Fusion IP plc ar Gyfleoedd Buddsoddi sy'n deillio o Eiddo Deallusol y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cytuno Memorandwm Dealltwriaeth gyda Fusion IP plc (AIM: FIP), cwmni masnacheiddio Eiddo Deallusol prifysgolion. Mae hyn yn caniatáu i Brifysgol Abertawe gynnig Eiddo Deallusol y Brifysgol i Fusion IP, yn gyfle buddsoddi.

Cynigir Eiddo Deallusol ar sail anunigryw.  Y prif delerau fydd:

  • Tymor cychwynnol o 5 mlynedd
  • Bydd Fusion IP yn gwerthuso a llunio prosiectau
  • Bydd Fusion IP yn derbyn 10% pan gaiff prosiect ei ymgorffori mewn cwmni newydd
  • Bydd gan Fusion IP yr hawl cyntaf i fuddsoddi hyd at 50% o'r arian cychwynnol ar sail pris cyn-fuddsoddi o £500,000
  • Os na ddaw prosiect yn rhan o gwmni newydd, ac os caiff ei drwyddedu wedyn, bydd Fusion IP yn derbyn ad-daliad o'i gostau o'r ffi trwyddedu, a 10% o unrhyw refeniw trwyddedu yn sgil hynny.

Dywedodd Dr Gerry Ronan, Cyfarwyddwr Rheoli Swansea Innovations Ltd, cwmni masnacheiddio sy'n eiddo i Brifysgol Abertawe, "Mae hyn yn gyfle arbennig i Brifysgol Abertawe gael mynediad at gyllid preifat i ddefnyddio ei Heiddo Deallusol yn fasnachol. Dwi o'r farn y bydd y perthynas anunigryw yn gweithio er lles y ddau barti, a dwi'n hynod o falch i allu gweithio gyda David a gweddill ei dîm yn Fusion IP."

Mae Fusion IP hefyd wedi codi £20 miliwn trwy'r Farchnad Buddsoddi Amgen (AIM) i gefnogi hyn a gwaith arall gyda phrifysgolion.

Dywedodd David Baynes, Prif Swyddog Gweithredol Fusion: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r buddsoddiad ychwanegol sylweddol hwn yn y cwmni mewn rownd ariannu sy'n cynnwys ein holl gyfranddalwyr sefydliadol presennol, yn ogystal ag ychwanegu nifer o fuddsoddwyr newydd. O ystyried ein cytundebau gyda phrifysgolion hefyd, mae hyn yn amlwg yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer Fusion. Rydym hefyd yn falch o allu ehangu ar ein gweithgarwch yng Nghymru, gan ychwanegu Prifysgol Abertawe i'r portffolio.

"Rydym yn parhau i ymrwymo'n llwyr i fasnacheiddio Eiddo Deallusol a gynhyrchir gan brifysgolion blaenllaw'r DU, a chredwn ein bod bellach mewn sefyllfa dda i gynyddu'r llif o gwmnïau ac i uchafu'r elw posibl o bortffolio sy'n gynyddol aeddfed."