Prifysgol Abertawe: yn barod am y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno ei hymchwil ar gyfer craffu annibynnol o dan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 y DU (REF2014).

REF2014 submissionMae REF2014 yn asesiad annibynnol o ansawdd yr ymchwil a gynhelir gan brifysgolion y DU. Bydd y canlyniadau’n dangos bod cyfran o ymchwil pob prifysgol o ragoriaeth sy’n arwain y byd, o ragoriaeth ryngwladol neu o ragoriaeth genedlaethol, a bydd hefyd yn effeithio ar y cyllid ymchwil y bydd prifysgolion yn ei dderbyn gan gynghorau cyllido addysg uwch y DU.

Fe wnaeth canlyniadau’r ymarfer asesu diwethaf yn 2008 raddio 47.5 y cant o ymchwil Prifysgol Abertawe yn ymchwil o ragoriaeth sy’n arwain y byd neu ragoriaeth ryngwladol, ac mae disgwyliadau uchel am ganlyniad llwyddiannus arall pan fydd canlyniadau REF2014 yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf.

Bu’r Athro Noel Thompson, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) ym Mhrifysgol Abertawe, yn goruchwylio’r broses gyflwyno.

Dywedodd: “I brifysgol uchelgeisiol fel Abertawe, mae REF yn ymarfer hanfodol bwysig a fydd yn darparu tystiolaeth bod Abertawe’n brifysgol sydd wir yn cael ei harwain gan ymchwil o statws rhyngwladol, a bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth o amgylch y byd.”

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gwaith 400 o staff (gan gynnwys 74 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa) ar draws 18 maes pwnc ar gyfer ei asesu. Mae’r dystiolaeth a ddarparwyd yn cynnwys mwy na 1,400 o bapurau ymchwil, penodau llyfrau, erthyglau, llyfrau, ac allbynnau cyhoeddedig eraill gan 63 o grwpiau ymchwil, yn ogystal â mwy na 50 o astudiaethau achos sy’n dangos effaith ymchwil y Brifysgol. Mae’r rhain yn dangos bod ymchwil a gynhaliwyd yn Abertawe’n cael effaith economaidd sylweddol. Er enghraifft, mae ymchwilwyr wedi: 

  • gwella’r broses ddylunio aerodynamig ar gyfer y diwydiant awyrofod trwy gymhwyso technegau a ddefnyddir erbyn hyn gan sefydliadau rhyngwladol megis BAE Systems;
  • gwneud cyfraniad technolegol hanfodol i gynhyrchu peiriannau tyrbin nwy effeithlon, gan arwain at ostyngiad sylweddol yn y defnydd o danwydd;
  • datblygu araenau swyddogaethol newydd ar y cyd â Tata Steel Europe;
  • galluogi defnydd eang o ffwng sy’n lladd pryfed i reoli plâu mewn cnydau;
  • cyfrannu at greu cynnyrch argraffedig technoleg uchel newydd, gan gynnwys y genhedlaeth nesaf o gylchedau goleuo.

 Mae enghreifftiau o’r ffordd y mae ymchwil y Brifysgol yn cael effaith ar ein hiechyd a’n lles yn cynnwys:

  • y defnydd o dechnoleg feddygol ddiagnostig newydd i wella canfod ceulo gwaed annormal;
  • datblygu technegau therapi golau newydd i drin anhwylderau croen er budd therapiwtig a chosmetig;
  • datblygu a gwerthuso ffyrdd newydd o reoli cleifion ag anhwylderau gastroberfeddol gwanychol;
  • gwella cyfraddau bwydo ar y fron drwy newidiadau i ganllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Hefyd, mae Prifysgol Abertawe yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymdeithas trwy ei chyfraniadau sylweddol i hysbysu polisi cyhoeddus, er enghraifft o ran:

  • lleihau anghydfodau ynghylch oedran a gwella’r broses o asesu oedran ar gyfer plant sy’n ceisio lloches sydd wedi eu gwahanu yn y DU, Ewrop a thu hwnt;
  • gwella asesu perygl ar ôl tanau gwyllt a pholisi ac arferion lleihau risg;
  • hysbysu a dylanwadu ar greu polisïau a strategaethau iaith ar lefelau llywodraeth leol a chenedlaethol i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc;
  • dylanwadu ar bolisi ym meysydd cyflogaeth a thâl yn y sector cyhoeddus, a lleihau anghydraddoldebau yn y farchnad lafur;
  • dylanwadu ar bolisi’r llywodraeth er budd y diwydiannau creadigol, twristiaeth ddiwylliannol, ac addysg;
  • newid polisi ac ymarfer yng Nghymru ar amgylcheddau byw â chymorth ar gyfer pobl hŷn;
  • annog dadleuon lefel uchel ar reolaeth ryngwladol ar gyffuriau;
  • llunio cyfraith newydd ar hawliau dynol plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae enghreifftiau eraill o ymchwil y Brifysgol yn cynnwys y gwaith i adfywio a thrawsnewid tirwedd ddiwydiannol “Copperopolis” yng Nghwm Tawe Isaf; trawsnewid ymwybyddiaeth ac integreiddio ffoaduriaid yn Ne Cymru, a gwella perfformiad mewn athletwyr elitaidd, er enghraifft, mewn cydweithrediad â Beicio Prydain.

Ychwanegodd yr Athro Thompson: “Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod Prifysgol Abertawe yn cyflawni effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, parhaus a gwerthfawr, nid yn unig yng Nghymru, ond yn rhyngwladol.

“Mae cydlynu cyflwyniad y Brifysgol i REF wedi bod yn fraint wirioneddol oherwydd bod hyn wedi dangos unwaith eto ein bod yn gymuned o ymchwilwyr gwirioneddol dalentog yn Abertawe.

“Gall bawb ohonom fod yn falch o’u cyflawniadau ac o’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i gymaint o fywydau, ac mewn cymaint o ffyrdd.”