Prifysgol Abertawe'n llongyfarch cymrawd er anrhydedd ar wobr Nobel

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r newyddion fod yr Athro Peter Higgs, sy'n gymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, wedi derbyn Gwobr Ffiseg Nobel yn cael ei ddathlu gan ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn y brifysgol heddiw.

Prof Peter HiggsCafodd y wobr ei chyflwyno iddo ar y cyd gyda Francois Englert ac mae'n cydnabod ei waith ar y boson enwog anodd ei ganfod sy'n dwyn ei enw, ac y daeth gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewrop (CERN) o hyd iddo mor orfolaethus ym mis Gorffennaf y llynedd. 

Ddyddiau'n unig ar ôl y cyhoeddiad, oedd yn y newyddion ar draws y byd, roedd yr Athro Higgs yn Abertawe i ddarlithio mewn cynhadledd ffiseg ryngwladol, ymddangosiad gafodd ei ffrydio'n fyw drwy wefan y brifysgol ac a drodd allan i fod yn uchafbwynt y digwyddiad.

Mae gan yr Athro Higgs gysylltiadau cryf â Phrifysgol Abertawe, ac ym mis Gorffennaf 2008 dyfarnwyd Cymrodoriaeth iddo yn ystod seremoni raddio'r Ysgol Gwyddorau Ffisegol.

Prof Peter Higgs

Mae wedi cyflwyno darlithoedd cyn hyn ym Mhrifysgol Abertawe, yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth, ac mae wedi dysgu rhai o aelodau presennol yr Adran Ffiseg fel myfyrwyr ymchwil, yn cynnwys yr Athro Simon Hands FLSW, gynt o CERN a bellach yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn y Coleg Gwyddorau.  

Prof Lyn Evans

Mae gan Brifysgol Abertawe hefyd gysylltiadau cryf gyda'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr (LHC) yn CERN, gafodd ei adeiladu i ganfod yr Higgs-Boson. Roedd  Yr Athro Lyn Evans CBE FRS, cyn fyfyriwr yn Abertawe a Chymrawd er Anrhydedd, yn Gyfarwyddwr Prosiect LHC, ac mae nifer o aelodau o staff academaidd yr Adran Ffiseg hefyd wedi gweithio ar brosiect CERN.  

Meddai'r Athro Simon Hands: "Mae cyflawniadau Peter mewn ffiseg wedi newid y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd ar y lefel is-atomig yn ddirfawr, ac maent yn dystiolaeth i ehangder ei wybodaeth a rhychwant ei gywreinrwydd. Rydw i wrth fy modd fod ei waith wedi cael ei gydnabod ac yr wyf i a'i holl ffrindiau yma ym Mhrifysgol Abertawe yn ei longyfarch yn wresog."

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is Ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym i gyd yn dathlu llwyddiant yr Athro Higgs, Cymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe, ar dderbyn Gwobr Ffiseg Nobel ar y cyd. Dros y blynyddoedd, rydym wedi gwerthfawrogi'n enfawr y gefnogaeth a'r cyngor y mae'r Athro Higgs wedi ei roi i'n hadran Ffiseg, sy'n cynnwys nifer o ymchwilwyr blaenllaw ym maes ffiseg gronynnau. Roeddem hefyd yn falch iawn fod yr Athro Higgs, o fewn dyddiau i ddarganfod y gronyn Higgs-Boson, wedi siarad am hynny yn Abertawe."

I edrych ar yr Athro Simon Hands yn cyfweld yr Athro Peter Higgs, a'r ddarlith My Life as a Boson gan yr Athro Higgs ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i  http://www.swansea.ac.uk/media-centre/livestreaming/higgs-boson/

Llun: Yr Athro Peter Higgs yn derbyn ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd yn Abertawe ym mis Gorffennaf 2008

Yr Athro Peter Higgs ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Gorffennaf 2012.

Yr Athro Lyn Evans ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2012.