Prifysgol Abertawe'n lansio WeCylce - datblygu seiclo ar draws y rhanbarth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill grant o £150,000 gan Chwaraeon Cymru i ddatblygu seiclo yn y ddinas a'r rhanbarth. Bydd yr ariannu'n cefnogi'r cynllun WeCycle newydd sbon ac yn ceisio datblygu'r gamp drwy gynyddu cyfranogiad, gwella cyfleoedd a rhoi cymorth i dalent

Mae ariannu gan y Loteri Genedlaethol wedi'i ddarparu drwy raglen Galw am Weithredu Chwaraeon Cymru i brosiectau a fydd yn darparu canlyniadau effaith uchel o ran niferoedd y bobl sy'n defnyddio chwaraeon yn y gymuned yn y dyfodol.

Bydd y cynllun WeCycle wedi'i leoli ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe ac yn darparu staff, offer, cyfleusterau a digwyddiadau ar gyfer unigolion o bob oed a gallu, ar draws y gymuned. 

Bydd y Brifysgol yn creu partneriaethau gyda Chwaraeon Cymru, Seiclo Cymru a chlybiau lleol gan gynnwys Beicwyr Gŵyr, i weithio tuag at ddatblygu hwb canolog ar gyfer seiclo yn Abertawe. Bydd modd i glybiau ddefnyddio'r cyfleusterau hyfforddi a ffitrwydd helaeth yn y Pentref Chwaraeon, gydag isadeiledd seiclo penodol ychwanegol wedi'i gynllunio yn ystod y tair blynedd nesaf.

Bydd WeCycle hefyd yn cynnig gwasanaeth llogi beiciau a chynhaliaeth a fydd yn caniatáu i deuluoedd, grwpiau ac unigolion logi beiciau i'w defnyddio o amgylch Bae Abertawe. Caiff y cyfleuster llogi ei reoli mewn partneriaeth â'r prosiect COASTAL.

Meddai Paul Robinson, Pennaeth Gwasanaethau Masnachol a Champws;

"Dyma gyfle gwych i adeiladu ar lwyddiant tîm Seiclo Prydain yn Llundain 2012 a buddugoliaeth Syr Bradley Wiggins yn y Tour de France. Drwy bartneriaethau cryf a thrwy gysylltu â'r prosiect hwn bydd Abertawe'n datblygu i fod wrth wraidd datblygiad seiclo yn Ne Cymru"

Meddai Tom Overton, Rheolwr Chwaraeon Cymru;

"Blwyddyn ar ôl lansio strategaeth gymunedol Chwaraeon Cymru mae'n gyffrous gweld cymaint o brosiectau mor addawol yn cael eu lansio drwy gydweithrediad o bartneriaethau rhwng ein partneriaethau chwaraeon traddodiadol megis awdurdodau lleol a hefyd cyrff newydd megis byrddau iechyd, sefydliadau tai cymdeithasol a phrifysgolion"

Am ragor o wybodaeth am raglen Galw am Weithredu Chwaraeon Cymru, cysylltwch â Claire Nicholson, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Chwaraeon Cymru ar 02920338366 neu e-bost Claire.nicholson@sportwales.org.uk

Caiff y cynllun WeCycle ei lansio ym mis Awst 2013 - am ragor o wybodaeth ewch i www.wecyclewales.org