Penodi academydd o Abertawe i lywodraethu pwyllgor diogelwch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i phenodi i bwyllgor breintiedig sy'n cynghori'r llywodraeth ar ddiogelwch cyfansoddion cemegol mewn bwyd, nwyddau tŷ, plaleiddiaid a chynhyrchion fferyllol.

Dr Shareen DoakMae Dr Shareen Doak, o Goleg Meddygaeth y Brifysgol, wedi'i phenodi'n Aelod Arbenigol ar y Pwyllgor Mwtagenedd Cemegau mewn Bwyd, Nwyddau Defnyddwyr a'r amgylchedd (COM) sy'n edrych ar p'un ai y mae cemegau naturiol ac a wnaed gan bobl mewn cynnyrch o'r fath yn niweidiol i iechyd dynol.

Dr Shareen DoakYn benodol, mae'r corff cynghorol hwn yn darparu cyngor i adrannau ac asiantaethau Llywodraethol y DU ar p'un ai y mae cemegau a ddefnyddir wrth gynhyrchu cynnyrch yn cynnwys mwtagenau a all niweidio DNA ac achosi problemau iechyd megis canser.

Mae'r COM hefyd yn adrodd i'r Prif Swyddog Meddygol ac i Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar yr holl agweddau o asesu peryg mwtagenau.

Caiff aelodau pwyllgor eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac maent yn ffurfio panel dethol o 10 ymchwilydd annibynnol yn unig.  Mae Dr Doak nawr yn ymuno â'r Athro Gareth Jenkins, sydd hefyd o Goleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe ac sydd hefyd yn gwasanaethu ar y COM ar hyn o bryd.

Meddai Dr Doak: “Rydw i wrth fy modd am gael fy mhenodi'n aelod o'r COM. Mae'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yn bwysig tu hwnt ac rydw i'n teimlo'n freintiedig i fod yn rhan o'r pwyllgor hwn ac i allu cyfrannu'n weithgar i ddiogelu iechyd dynol yn ein cymdeithas.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.iacom.org.uk/