Partneriaeth FloodMEMORY i ddarogan effeithiau llifogydd a lleihau'r risg yn y dyfodol

Y mis hwn, bydd ymchwilwyr Peirianneg o Brifysgol Abertawe yn dechrau gweithio ar brosiect aml-bartner gwerth £2.2 miliwn i ymchwilio i effeithiau llifogydd ar amddiffynfeydd, ardaloedd trefol, cymunedau, a busnesau, i helpu lleddfu risg llifogydd yn y dyfodol.

Arweinir y prosiect tair blynedd, sef Modelu Aml-ddigwyddiad Risg ac Adferiad (FloodMEMORY), gan Brifysgol Newcastle.  Mae Prifysgolion Aberdeen, Cranfield, Heriot-Watt, Newcastle, Nottingham, Southampton, Queen Mary Llundain, a Gorllewin Lloegr hefyd yn ymwneud â'r prosiect, yn ogystal â'r Ganolfan Cefnforeg Genedlaethol.

Bydd y prosiect, sydd wedi derbyn dros £1.765 miliwn oddi wrth y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, yn ystyried y senarios mwyaf difrifol o ran llifogydd a achosir gan gyfres neu glwstwr o ddigwyddiadau tywydd eithafol yn bwrw yn erbyn systemau naturiol, adeiladau, a systemau economaidd-gymdeithasol.

Bydd FloodMEMORY yn dadansoddi ac efelychu sefyllfaoedd lle gall ail lif daro cyn bod modd adfer amddiffynfeydd yn sgil difrod, neu le mae cartrefi a busnesau bychain yn agored i niwed wrth iddynt adfer eu sefyllfa yn dilyn effeithiau'r llif cyntaf.

Mae tîm y prosiect yn gobeithio y bydd canfyddiadau’r prosiect, o ganlyniad i ystyried y fath ddigwyddiadau a nodi'r senarios gwaethaf posibl, yn arwain at wella ein cadernid wrth wynebu llifogydd, a gwell defnydd adnoddau ar gyfer amddiffyn ac adfer. Yn y pen draw, gellid defnyddio'r prosesau a ddatblygir ledled y byd.

HarshinieDywedodd Dr Harshinie Karunarathna, uwch-ddarlithydd peirianneg arfordirol yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, sy'n arwain y gwaith ymchwil yn y Brifysgol: "Mae'n gyffrous i fod yn rhan o'r prosiect heriol hwn, sy'n ceisio sicrhau cynnydd mawr o ran ein gallu i ddarogan effeithiau llifogydd.

"Bydd Abertawe'n arwain y gwaith ar Systemau Llifogydd Arfordirol, fydd yn defnyddio modelau o ardaloedd arfordirol o'r radd flaenaf, gyda'r nod o ddarogan sut bydd traethau'n newid a sut bydd ardaloedd arfordirol yn dioddef llifogydd o ganlyniad i ddigwyddiadau eithafol, a hynny ymhell i'r dyfodol."

Craffir yn fanwl ar newidiadau yn amlder a difrifoldeb llifogydd o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y stormydd a ragwelir wrth edrych i'r dyfodol. Bydd y prosiect yn ystyried cofnodion arsylwadau stormydd, gan geisio deall sut all clystyrau guddio, neu hyd yn oed gwaethygu, newidiadau sy'n deillio o newid hinsawdd.

Mae hynny'n allweddol heddiw wrth ddylunio amddiffynfeydd llifogydd, a fydd ar waith am ddegawdau i ddod, gan nad yw dulliau cyfredol o amcangyfrif risg mewn hinsawdd sefydlog yn llwyr esbonio'r clystyru a welir na'r newidiadau posibl o ran amrywiant.

Bydd agweddau eraill o'r prosiect yn ystyried sut mae arfordiroedd (traethau naturiol ac amddiffynfeydd dynol) ac afonydd yn ymddwyn yn ystod stormydd.

O ddiddordeb penodol yw effeithiau stormydd a llifogydd y gorffennol o ran symud gwaddodion (h.y. graean bras, tywod, a gwaddod afonydd) fel bod y traeth neu'r afon mewn cyflwr gwahanol - gwannach o bosibl - pan ddaw ail lif. Mae'n anodd darogan sut bydd gwaddodion yn symud, gan fod hynny'n digwydd, yn bennaf, mewn stormydd, ac felly mae diffyg yn ein gwybodaeth am y prosesau ar hyn o bryd.