Myfyrwyr Blwyddyn 12 yn dysgu am ddefnydd pynciau gwyddonol mewn Meddygaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Partneriaeth Ymgyrraedd Yn Ehangach De-orllewin Cymru, a leolir ym Mhrifysgol Abertawe, wedi trefnu digwyddiad Technoleg mewn Meddygaeth i 49 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 o ysgolion a cholegau lleol.

Cynhelir y rhaglen ddydd Iau 18 Ebrill a dydd Gwener 19 Ebrill, a'r nod yw cymharu gwahanol yrfaoedd ym maes meddygaeth.   Caiff y myfyrwyr brofiad ymarferol trwy weithdai ar ystod o bynciau, a'r gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddeall y llwybrau posibl i'r holl amrediad o yrfaoedd meddygol sydd ar gael iddynt. Mae Ymgyrraedd yn Ehangach wedi cydweithio â staff Prifysgol Abertawe, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i drefnu'r cyfle cyffrous hwn, lle caiff myfyrwyr brofiad o Feddygaeth, Sbectrosgopeg, a Ffiseg Feddygol. Cynhelir y gweithdai ar draws y campws, yn Adeilad 2 y Sefydliad Gwyddor Bywyd, ac yn Ysbyty Singleton.

Caiff pob myfyriwr bartner sydd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd, ac a fydd yn wyneb cyfarwydd iddo trwy gydol y digwyddiad.  Bydd y partneriaid hyn yn gallu rhoi mewnwelediad i fywyd prifysgol hefyd!

Nawdd ariannol yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol sydd wedi'i gwneud yn bosibl i gynnal y digwyddiad hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa Ymgyrraedd yn Ehangach ar 01792 606128, neu andrew.burns@abertawe.ac.uk .