Masnachu mewn Oes Rhwydweithiau a Rhwydweithio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir seminar rhwydweithio a drefnir gan y Grŵp Ymchwil Rhwydweithio (www.nrg-swansea.com) ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau, 9 Mai, gyda Julia Hobsbawm yn siaradwr gwadd.

Julia HobsbawmTeitl: Masnachu mewn Oes Rhwydweithiau a Rhwydweithio

Siaradwr: Julia Hobsbawm, gwraig fusnes, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd 'Editorial Intelligence' sef busnes rhwydweithio gwybodaeth, a phrifathro rhwydweithio anrhydeddus cyntaf y DU, yn Ysgol Busnes Cass yn Llundain.


Dyddiad: Dydd Iau Mai 9, 2013

Amser: 1pm tan 3pm. Darperir lluniaeth a chinio bwffe.

Lleoliad:  Ystafell Fforwm Ymchwil, Tŷ Fulton, Prifysgol Abertawe. (Ymddiheurwn mai dim ond ymwelwyr anabl sy'n cael parcio ar gampws y brifysgol. Mae'n rhaid i bob cerbyd arall barcio ym Maes Parcio'r Cae Hamdden yn Heol Ystumllwynarth. Am gyfarwyddiadau, ewch i: http://www.swansea.ac.uk/the-university/location/directions/). 

Mynediad: Mae croeso i bawb, ac mae'r seminar am ddim. Gan fod nifer y seddau yn y lleoliad yn gyfyngedig, gofynnir i'r rhai sy'n dymuno dod gofrestru ymlaen llaw trwy gysylltu â Dr Pavel Loskot yn y Coleg Peirianneg ar: 01792 602619, neu e-bost: p.loskot@abertawe.ac.uk.


Crynodeb o'r digwyddiad: Er bod dadansoddi data rhwydweithiau cymdeithasol yn destun poblogaidd ar gyfer ymchwil gwyddonol a thechnegol, mae'n debyg bod y rhan fwyaf ohonom am wybod sut mae'r rhwydweithiau hyn yn gweithio mewn gwirionedd yn ein bywyd beunyddiol, a sut y gallant gyfrannu i ddatblygu personol a phroffesiynol.

Yn y ddarlith hon, bydd Julia Hobsbawm yn dadlau bod angen edrych o'r newydd ar rwydweithiau cymdeithasol er mwyn llawn deall sut maent yn gweithio ac er mwyn eu defnyddio i'r eithaf.  Bydd yn dadlau o blaid astudiaeth hydredol yn y gweithle ac ymhlith gweithwyr llawrydd proffesiynol, a bydd yn esbonio pam bod rhwydweithiau cymdeithasol yn allweddol i yrfa.  Bydd hefyd yn esbonio bod angen ystyried rhwydweithio ei hun yn fwy manwl os ydym am ddeall pam bod yr unigolion sydd â gwell rhwydweithiau'n llwyddo'n well, ac, o ganlyniad, pam bod rhwydweithio'n un o brif yrwyr cynhyrchiant economaidd yn y gweithle.

Mae Julia Hobsbawm yn wraig busnes, a hi yw athro anrhydeddus cyntaf y DU ym maes rhwydweithio, yn Ysgol Busnes Cass, yn Llundain. Mae'n sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol 'Editorial Intelligence', y busnes rhwydweithio gwybodaeth. Mae ei nod, sef "dod â chysylltiadau a syniadau i unigolion proffesiynol sydd wedi'u hynysu yn eu seilos yn rhy hir", wedi dod yn feincnod rhwydweithio cymdeithasol modern.

Hi yw'r unig aelod, o gefndir busnes cyfryngau'r DU, ar Gyngor Agenda Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd sy'n ystyried dyfodol "Cymdeithasau Gwybodus". Yn ystod pum mlynedd ar hugain ei gyrfa, o Tellex i Twitter, mae wedi gweithio ym meysydd cyhoeddi llyfrau, teledu, a gwleidyddiaeth.

Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr, ac yn cyd-ysgrifennu llyfrau addysgol a thiwtorialau newydd ar rwydweithio ar gyfer y Curious Corporation, sydd i'w cyhoeddi gan Editorial Intelligence.

Mae'n trydar o @juliahobsbawm, a gellir dod o hyd i'w barn ar rwydweithio yn y Financial Times, ar CNN, ac mewn cyfryngau byd-eang eraill, neu o'i gwefannau: www.juliahobsbawm.com  a www.editorialintelligence.com.