Iolo Williams i lansio Llwybr Natur y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Iolo Williams, sy'n cyflwyno rhaglenni bywyd gwyllt ar y teledu, yn ymweld รข Phrifysgol Abertawe am 11am ddydd Llun 11 Mawrth i lansio Llwybr Natur ac i annog staff, myfyrwyr, ymwelwyr a phobl leol i ddarganfod ystod y cynefinoedd naturiol ar y campws.

Iolo Williams‎Mae'r llwybr yn crwydro trwy ystod o gynefinoedd ar y campws, gan gynnwys coetir, pwll, cors, a gardd ffurfiol.

Gobaith y tîm prosiect Bioamrywiaeth yw y bydd staff, myfyrwyr, ac ymwelwyr yn mwynhau'r llwybr, ac y bydd plant meithrinfa'r Brifysgol yn ei ddefnyddio i ddysgu am fyd natur.

Mae mapiau a thaflenni ar gael, yn ogystal â chwe bwrdd gwybodaeth ar y llwybr, sy'n esbonio'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, a'r hyn y mae'r Brifysgol yn ei wneud i ofalu am fywyd gwyllt ar y safle.

Hefyd, mae'r tîm prosiect yn lansio Beiciau'r Bae, cynllun llogi beiciau i staff a myfyrwyr am ddim,  yn ogystal â gweithgareddau eraill.

Mae'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rhagor o fyrddau gwybodaeth yn tynnu sylw at nodweddion ecolegol penodol, a rhagor o fapiau a thaflenni am lwybrau hanes a daeareg newydd.

Dywedodd Dr Heidi Smith, Rheolwr Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe: "Mae'r llwybr natur yn daith dywys syml. Os oes gan bobl 30 munud yn sbâr yn ystod eu hawr ginio, neu cyn bod ffilm yn cychwyn yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, dylent gydio yn y cyfle i ddod i adnabod yr amgylchedd gwych yma yn well.

"Mae cerdded a beicio yn ffyrdd da o gael ymarfer corff, ac o gael gwared â straen.  Gobeithio y bydd nifer gynyddol o bobl, yn staff, yn fyfyrwyr, yn fynychwyr cynadleddau, ac yn ymwelwyr, yn cymryd yr amser i fwynhau'r llefydd gwyrdd hyfryd o'u cwmpas yma ym Mhrifysgol Abertawe."