Hwb i brosiect yr UE wrth i’r Gweinidog Cyllid amlinellu cyfleoedd i fuddsoddi £2 biliwn pellach o gronfeydd yr UE yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae swm ychwanegol o £644,000 wedi cael ei ddyfarnu i brosiect a gefnogir gan yr UE, yn ôl y cyhoeddiad gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt heddiw (28.11.13) wrth iddi annerch cynhadledd i dynnu sylw at gyfleoedd i fuddsoddi £2 biliwn pellach o Gronfeydd yr UE yng Nghymru o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

LEAD Wales funding boostMae prosiect LEAD Cymru, sy’n werth £9 miliwn, ac sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe, yn cefnogi arweinwyr a pherchnogion-rheolwyr busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol i ennill sgiliau arwain a rheoli newydd er mwyn rhoi hwb i lwyddiant masnachol.

Bydd yr arian ychwanegol yn galluogi’r cynllun i gael ei gyflwyno’n raddol er mwyn darparu cymorth i reolwyr canol BbaCh mwy.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn y Gynhadledd Buddsoddi yn eich Dyfodol yng Nghaerdydd: “Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi swm ychwanegol o £644,000 ar gyfer prosiect LEAD Cymru. Dyma enghraifft arall o sut y mae aelodaeth y DU o’r EU yn dod â  manteision i Gymru.

“Mae cronfeydd yr UE yn cael effaith gadarnhaol ar ein rhanbarth. Mae rhoi i arweinwyr busnes y sgiliau rheoli y mae arnynt eu hangen i feithrin gweithlu cryf a deinamig yn hanfodol er mwyn ymateb i gyfleoedd y farchnad lafur a heriau’r 21ain Ganrif.”

Mae dros 520 o arweinwyr a chyfarwyddwyr busnes eisoes wedi cymryd rhan yn rhaglen LEAD Cymru, ac o’r rheiny mae bron 370 wedi ennill cymwysterau, ac mae dros 460 o gyflogwyr wedi rhoi cefnogaeth neu gymorth ariannol.

Yn y gynhadledd dywedodd y Gweinidog y byddai £2 biliwn pellach o Gronfeydd Strwythurol yr EU a fydd ar gael am y cyfnod 2014-2020 yn parhau i gefnogi rhagor o fusnesau, yn ogystal â gyrru ymchwil ac arloesi, helpu pobl i mewn i waith a chynyddu sgiliau a  threchu tlodi.

Hefyd lansiodd y Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd a fydd yn helpu noddwyr posibl ar draws pob sector i gynllunio a datblygu prosiectau arloesol o safon i fynd i’r afael â chyfleoedd economaidd allweddol er mwyn i fuddsoddiadau arwain at gymaint o fanteision â phosibl i Gymru.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid: “Mae partneriaeth yn sail i ddatblygu a darparu’r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru, ac mae’n hanfodol i ni barhau i weithio gyda’n partneriaid i fynd ati i gynllunio prosiectau sy’n gallu helpu i gyflawni ein nodau ar gyfer cynyddu swyddi a hybu ein heconomi.”

Dywedodd Ceri Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro'r Adran Ymchwil ac Arloesi , Prifysgol Abertawe: “Mae cronfeydd yr UE wedi bod yn hanfodol i lwyddiant prosiect LEAD Cymru. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein galluogi i roi cymorth pellach i’n harweinwyr a’n cyfarwyddwyr busnes er mwyn iddynt hwythau wella perfformiad busnesau. Fe fydd hyn, yn ei dro, o fudd i economi Cymru.”

Mae Cyfarwyddwr Melin Consultants, Jamie Best,  ymhlith y rhai a gymerodd ran yn rhaglen LEAD Cymru. Mae ei gwmni’n darparu cymorth technegol arbenigol i’r sector adeiladu er mwyn gwneud adeiladau’n fwy cynaliadwy.

Dywedodd: “Pan ddechreuodd y dirwasgiad ddyfnhau a phan arafodd y sector adeiladu, arafodd ein cwmni ninnau hefyd. Cefais gan raglen LEAD Cymru'r offer newydd yr oedd arnaf eu hangen i edrych ar bethau’n wahanol ac i wella perfformiad busnes. Erbyn hyn rydym ar y trywydd iawn unwaith eto a thros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd o dros 20 y cant mewn gwerthiannau a chynnydd o dros 15 y cant mewn proffidioldeb, ond y gwahaniaeth mwyaf i mi yw bod gennym gynllun at y dyfodol - a hynny oherwydd LEAD.”

Caiff cynlluniau buddsoddi’r UE ar gyfer 2014-2020 eu cyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd i’w cymeradwyo pan fydd Cytundeb Partneriaeth Llywodraeth y DU wedi cael ei gyflwyno ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Mae prosiectau’r UE eisoes wedi cynorthwyo rhyw 465,400 o gyfranogwyr, ac o’r rheiny mae rhyw 157,000 wedi cael eu cefnogi i ennill cymwysterau a rhyw 52,800 wedi cael eu helpu i ddod o hyd i waith. Yn ogystal, mae dros 22,000 o swyddi (gros) a rhyw 7,000 o fentrau wedi cael eu creu.