Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith nesaf yn y gyfres o ddarlithoedd cymunedol am ddim a drefnir gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau 21 Mawrth.

Siaradwr: Liz Wride

Teitl y Ddarlith: History: Retold

Dyddiad:  Iau 21 Mawrth 2013

Amser: 3.45pm – 5.30pm

Lleoliad: Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN

Mynediad: Mae mynediad am ddim. Mae ychydig o lefydd ar ôl ar gyfer y ddarlith hon, ond gan fod nifer y seddau'n gyfyngedig, mae angen archebu lle ymlaen llaw, os gwelwch yn dda, er mwyn peidio â chael eich siomi (manylion cyswllt islaw).

Crynodeb o'r ddarlith: Bydd y ddarlith hon yn ystyried y gwahanol ffyrdd y mae gwahanol gyfryngau'n adrodd stori hanes. Beth sy'n gwneud i stori hanes fod yn fodern? Paham nad yw rhai cyfryngau ddim mor hoff o straeon hanes y dyddiau hyn?

I archebu lle, neu am ragor o wybodaeth, galwch 01792 602211 neu anfonwch e-bost at: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd y lleoliad ei hun yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace