Gyda dros 300 o farwolaethau oherwydd hunanladdiad y flwyddyn, mae 'Cymorth wrth Law'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cannoedd o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru ond mae cymorth wrth law bellach ar ffurf canllaw defnyddiol a lansiwyd heddiw.

Help is at Hand Welsh

Gall profedigaeth oherwydd hunanladdiad neu farwolaeth sydyn heb esboniad fod yn arbennig o anodd i bobl, y mae angen arnynt yn aml gymorth ymarferol ac emosiynol wrth ymdrin â'u colled.

Mae “Cymorth wrth Law” Cymru wedi'i gynhyrchu fel canllaw hunangymorth defnyddiol i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae'r canllaw’n cynnwys adrannau ar faterion ymarferol, profedigaeth, ffynonellau cymorth a sut y gall ffrindiau a chydweithwyr helpu. Caiff y canllaw ei anfon at amryw bobl sy'n dod i gysylltiad â rheini mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad megis cyfarwyddwr angladdau, meddygon teulu, yr heddlu a swyddogion swyddfa'r crwner a bydd ar gael am ddim ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Lansiodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol fersiwn newydd y cyhoeddiad i Gymru a siaradodd yr adnabyddus Athro Keith Hawton o'r Ganolfan Ymchwil Hunanladdiad, Prifysgol Rhydychen yn y digwyddiad lansio am hanes y canllaw "Cymorth wrth Law" gwreiddiol. Mae'r Athro Hawton, sydd hefyd yn Seiciatrydd Ymgynghorol gydag Ymddiriedolaeth Sefydliadol Iechyd GIG Rhydychen ac yn Athro mewn Seiciatreg  ym Mhrifysgol Rhydychen, wedi bod yn gweithio ym maes ymchwil i hunanladdiad a hunan-niwed difrifol am fwy na 35 blynedd.

Meddai Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 

"Hoffwn longyfarch Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Hunanladdiad am ddatblygu'r adnodd ardderchog hwn.  Bydd yn darparu cysur a chymorth amhrisiadwy i'r rheiny sydd ei angen fwyaf - y rhai hynny sy'n canfod eu hun mewn sefyllfa drasig ar ôl colli un annwyl drwy hunanladdiad.

Health Minister Welsh

"Rydw i hefyd yn falch bod y canllaw'n cynnwys adran yn cynnig cymorth i weithwyr proffesiynol gofal iechyd hefyd. Maen nhw hefyd - nyrsys, meddygon teulu, seiciatryddion a staff ambiwlans - yn gallu cael marwolaethau o'r fath yn anodd ac mae'n beth da bod ganddynt fynediad i gymorth. Gall fod yr un mor anodd i staff ar y llinell flaen gefnogi'r rhai hynny mewn profedigaeth ac mae angen cymorth ar lawer o bobl wrth wneud hynny.

"Rydw i'n ddiolchgar i arbenigwyr megis yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth y Coleg Meddygaeth a Dr Ann John o Brifysgol Abertawe sy'n gyrru ymchwil yn y maes hwn ymlaen. Heb eu hymdrechion di-baid a gwaith ehangach y Grŵp Cynghori a changen Ymchwil a Datblygu Prifysgol Abertawe, ni fyddwn ni yng Nghymru yn gallu cymryd yr awenau fel yr ydym wedi'i wneud wrth ddatblygu polisïau yn ymwneud â hunanladdiad. “

Meddai Dr Ann John, Athro Cefnogol Clinigol mewn Iechyd Meddwl Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe ac arweinydd atal hunanladdiad Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Ceir oddeutu 300 o farwolaethau oherwydd hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru ac ar gyfer pob un o'r rhain, awgrymir, ar gyfartaledd, bod chwe pherson wedi'u heffeithio'n ddwfn. Mae'r rhain yn cynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr ynghyd ag aelodau'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae angen cymorth sylweddol yn aml ar bobl mewn profedigaeth ond gallant ei chael hi'n anodd dod o hyd i gymorth. Mae'r llyfryn hwn yn adnodd hunangymorth sydd wedi'i ddatblygu ar gyfer pobl mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad neu farwolaeth heb esboniad ac i'r rhai hynny sy'n eu helpu. “

Meddai Cadeirydd PAPYRUS Stephen Habgood:

"Fel rhiant roeddwn yn siomedig na chefais unrhyw lenyddiaeth gynorthwyol ar ôl i'm mab fynd â'i fywyd ei hun. Wedi cael gwybod faes o law am Gymorth wrth Law, gwn y byddai wedi bod yn gynorthwyol tu hwnt i mi. Fel cyn clerigwr Cymraeg a nawr fel Cadeirydd Atal Hunanladdiad Pobl Ifanc PAPYRUS, gwn bod nifer o'n haelodau wedi cael yr adnodd yn fuddiol tu hwnt ac rydw i wrth fy modd ei fod yn cael ei ehangu i'r gymuned Gymraeg."

Bu Dick Moore, cyn athro Saesneg, hyfforddwr rygbi, a phrifathro am bron 23 o flynyddoedd, yn siarad yn ddiweddar ar raglen  Four Thought BBC Radio 4 (dydd Mercher 12 Mehefin) am golli ei fab drwy hunanladdiad ac ysgrifennodd at Dr John gan ddweud;

"Mae stormydd bywyd yn taflu pob math o bethau drwg atom. Ar y cyfan rydym yn ymdopi. Mae hunanladdiad rhywun yr ydym yn ei garu mor wael ag y gall pethau fynd, ond hyd yn oed wedyn mae'n bosib mwynhau bywyd eto, er nad yw tonnau galar byth yn encilio'n gyfan gwbl.  Yr hyn sy'n bwysig yw cymorth ffrindiau, pobl broffesiynol a hyd yn oed dieithriaid tu hwnt, ond weithiau mae'r cymorth hwnnw’n anodd dod o hyd iddo. Mae'r fenter hon, Cymorth wrth Law, yn wych ac yn amserol. Gall helpu'r rhai hynny sy'n ceisio dod o hyd i gysgod rhag stormydd galar i ddysgu sut i ddawnsio yn y glaw."

Mae fersiwn o'r rhaglen Radio wedi'i golygu ar gael ar wefan y BBC yn http://www.bbc.co.uk/news/magazine-22854301%20

Gellir dod o hyd i "Cymorth wrth Law" Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn www.publichealthwales.org