Ffisegwyr ALPHA yn archwilio effaith disgyrchiant ar wrthfater

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe wedi cydweithio ar ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn Nature Communications, yn disgrifio'r dadansoddiad uniongyrchol cyntaf o sut y mae disgyrchiant yn effeithio ar wrthfater er mwyn helpu i ddeall rhagor am sut y mae'r Bydysawd yn gweithio.

Mae'r Athro Mike Charlton, Dr Stefan Eriksson, Dr Niels Madsen, Dr Dirk van der Werf, yr ymchwilydd ôl-ddoethurol Dr Aled Isaac a'r myfyriwr Silvia Napoli o Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol yn rhan o dîm o wyddonwyr o'r cydweithrediad ALPHA  yn CERN (Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewrop) sy'n cyhoeddi ymchwil yn nodi cam pwysig ymlaen tuag at ddeall ymddygiad gwrthfater.

Mae meddwl presennol yn awgrymu y dylai mater a gwrthfater ymddwyn yr un peth o safbwynt disgyrchiant: mae mater a gwrthfater yn profi'r un grym sy'n deillio o faes disgyrchiant y ddaear. Fodd bynnag nid oes mesuriadau uniongyrchol yn bodoli sy'n gallu diystyru'r posibilrwydd nad ydynt yn ymddwyn yn yr un modd.

Mae'r gwyddonwyr ALPHA bellach yn gweithio ar arbrawf o'r fath drwy ddal atomau gwrth-hydrogen ac yna eu rhyddhau, i geisio darganfod a yw mater a gwrthfater yn ymddwyn yr un peth i ddisgyrchiant; mae hyn wedi caniatáu iddynt osod terfyn ar effeithiau disgyrchiant afreolaidd.

Meddai Dr van der Werf: "Mae canfyddiadau'r arbrawf uniongyrchol hwn yn bwysig gan mai dyma'r cam cyntaf tuag at ateb rhai o'r prif gwestiynau ynglŷn â natur y Bydysawd. Byddwn yn parhau â'n harbrofion gyda'r tîm ALPHA yn 2014 er mwyn cael rhagor o ddata ac rydym yn gobeithio  profi a yw gwrthfater yn ymateb i ddisgyrchiant drwy syrthio i lawr. Er ei fod yn annhebygol, os ydym yn canfod bod gwrthfater yn cwympo tuag i fyny, bydd rhaid i ni ailfeddwl ein syniadau am y ffordd y mae'r Bydysawd yn gweithio."