Dewisir dau fyfyriwr Prifysgol Abertawe ar gyfer y gêm Dan 20

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe yn falch o wisgo crys Cymru pan fyddant yn rhedeg ar gae Bae Colwyn yr wythnos hon, pan fydd tîm dan 20 Cymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon yng ngêm gyntaf y bencampwriaeth Chwe Gwlad.

Chwaraeir y gêm rhwng timoedd dan 20 Cymru ac Iwerddon ddydd Gwener 1 Chwefror am 7.10pm ym Mharc Eirias, Bae Colwyn.  

Roedd myfyrwyr o Brifysgol Abertawe yn rhagori yn y broses ddewis a phrofi estynedig, a'r canlyniad yw bod Nicky Thomas, prop, a Steffan Hughes, canolwr, wedi'u dewis i chwarae yn erbyn Iwerddon.

Mae Nicky a Steffan yn fyfyrwyr Gwyddor Chwaraeon yn eu blwyddyn gyntaf.  Mae Nicky a Steffan yn chwarae dros Brifysgol Abertawe yn rheolaidd pan nad ydynt yn chwarae dros y Gweilch (Nicky) neu'r Sgarlets (Steffan).

Nicky Thomas

 Steffan Hughes

Dywedodd Richard Lancaster, hyfforddwr Prifysgol Abertawe: "Rydym yn hynod o falch bod cymaint o chwaraewyr o'n tîm cyntaf wedi'u dewis i gynrychioli eu gwlad, ac mae hyn yn amlygu, unwaith eto, safon uchel rygbi yn y Brifysgol, a'r ffordd mae chwaraewyr yn datblygu tra eu bod yma. Calonogol yw gweld bod gan y Brifysgol chwaraewyr sy'n cael eu dewis ar bob lefel."

 

Bydd y profiad a'r hyfforddiant a gânt wrth chwarae yng ngemau'r Chwe Gwlad yn helpu'r chwaraewyr i baratoi ar gyfer gêm Farsity Cymru yn y dyfodol agos.

Chwaraeir Gêm y Prifysgolion rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd bob blwyddyn. Eleni, bydd gêm y Farsity ar 24 Ebrill.  Am fanylion y diwrnod a'r hyn sy'n digwydd, ewch i http://www.welshvarsity.com.

Cynhelir dros 25 o ddigwyddiadau i benderfynu pwy sy'n derbyn Tarian y Prifysgolion dros gyfnod o wythnos. Canolbwynt y campau yw'r gêm rygbi a chwaraeir ar y nos Fercher yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, pan fydd y ddwy brifysgol yn mynd benben â'i gilydd. Aeth dros 14,500 o bobl i weld gêm y llynedd.

Cynhwysir chwaraeon eraill yn y gemau hefyd, gan gynnwys hoci, sboncen, badminton, lacrós, rhwyfo, golff, pêl-fasged, pêl-droed, pêl-rwyd, cleddyfaeth, ac ystod o chwaraeon eraill gan gynnwys crefft ymladd. Mae'n ddigwyddiad codi arian, ac aiff yr elw at nifer o achosion da.

Darlun 1: Nicky Thomas.

Darlun 2: Steffan Hughes

http://www.pitchero.com/clubs/swanseauniversityrfc