Darn coll o 'jig-so' yn cysylltu Abertawe â Cairo

Mae darn o wydr dros 3000 blwydd oed, sydd i'w weld yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe, wedi'i adnabod fel un o ddarnau coll fâs wydr brin Eifftaidd sydd yn Amgueddfa Cairo ar hyn o bryd.

Egyptian vase fragment

Mae'r tamaid lliwgar, a oedd yn berchen yn wreiddiol i Pharo Amenhotep II (1427-1401CC), ar fenthyg o Amgueddfa Abertawe. Mae'r darn o wydr 4cm o hyd yn dangos dau enw'r brenin yn goch ac yn felyn ar gefndir o las llachar. Mae'r enwau wedi'u coroni â disgiau haul coch a phlu melyn.  Saernïwyd y darn coll o flaen llaw a'i osod ar gorff yr amffora gwydr (fâs), sy'n 40cm o uchder.

 

 

Harold Jones

Rhoddwyd y darn o wdr i'r Amgueddfa ym 1959. Mae tystiolaeth amgylchiadol yn awgrymu ei fod wedi dod o fedd y frenhines Tiye (gwraig y brenin Amenhotep III (1390-1352CC). Rhoddwyd y darn i Amgueddfa Abertawe gan Miss Annie Sprake Jones o Abergwili a dderbyniodd y darn gan ei frawd Harold Jones. Roedd Harold Jones wedi'i gyflogi fel artist ym meddau Cwm y Brenhinoedd yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

 

 

 

Darganfu Birgit Schlick-Nolte, Eifftolegydd o'r Almaen, a Kate Bosse-Griffiths, curadur cyntaf Casgliad Eifftolegol y Brifysgol, fod y darn sydd yn Abertawe yn rhan o'r llestr yn Amgueddfa Cairo, ond dim ond yn ddiweddar y cyhoeddwyd gwybodaeth ar hyn, ynghyd â gwybodaeth ar wneuthuriad y ddogfen, gan Birgit. Mae'r llestr cyfan yn amffora gwyn, gydag addurno brown a glas golau.

Reconstructed vase

Meddai Dr Carolyn Graves-Brown, Curadur y Ganolfan Eifftaidd: "Mae gwydr o'r dyddiad hwn yn hynod o brin yn yr Aifft ac fel arfer byddai'n cael ei roi fel rhodd ddiplomyddol rhwng brenhinoedd y rhanbarth. Mae llestri ac arteffactau eraill o deyrnasiad Amenhotep II yn rhan o arae anhygoel o dechnegau soffistigedig o gyfnod arloesol mewn cynhyrchu gwydr. Ni fyddai llestri mawr megis hwnnw yn Amgueddfa Cairo, lle y daeth ein darn ni ohoni, yn cael eu hymgeisio hyd yn oed mewn blynyddoedd diweddarach. Ar y dyddiad hwn roedd cynhyrchu gwydr yn fonopoli brenhinol ac roedd mor werthfawr ag aur ac arian.

Vase with fragment

"Byddai'r darn o wydr yn Abertawe gydag enw'r brenin arno wedi'i saernïo o flaen llaw a'i osod ar gorff y llestr tra'i fod mewn cyflwr tawdd o hyd. Yn ddiddorol, un o'r enwau ar gyfer gwydr yn yr Hen Aifft oedd 'y garreg sy'n llifo'."

 

 

 

Meddai Garethe el-Tawab, Curadur Amgueddfa Abertawe:"Mae benthyg y darn prin iawn hwn o hen wydr gan yr Amgueddfa i'n cydweithwyr yn y Ganolfan Eifftaidd yn enghraifft ardderchog o gydweithio mewn ymchwil ryngwladol".

Bydd modd i ymwelwyr weld y darn prin hwn o wydr Eifftaidd am eu hunain pan fyddant yn dod i'r Ganolfan sydd ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am tan 4pm, gyda mynediad am ddim i'r cyhoedd.

Mae darlun 1 yn dangos y darn coll.

Mae darlun 2 yn gopi o lun Harold Jones

Mae darlun 3 yn dangos amffora gwydr Cairo, wedi'i adlunio.

Mae darlun 4 yn llun 'photoshop' o'r llestr gyda'r darn coll wedi'i ymgorffori.

D.S.: Brigit Schlick-Nolte sydd biau hawlfraint lluniau 3 a 4, ac mae wedi rhoi ei chaniatâd i ni eu defnyddio.

Mae amffora yn fath o gynhwysydd gyda siâp a maint nodweddiadol, sy'n dod o oes o leiaf mor gynnar â'r Cyfnod Neolithig. Defnyddiwyd niferoedd enfawr o amfforau i gludo a chadw cynnyrch amrywiol, yn hylif ac yn sych, ond gan amlaf ar gyfer gwin. Gan amlaf, fe'u gwnaed o seramig, ond daethpwyd o hyd i enghreifftiau metel, ac enghreifftiau mewn deunyddiau eraill.

Egypt Centre : 01792 295960  http://www.swansea.ac.uk/egypt