Cystadleuaeth Ffug Lys Genedlaethol yn dod i Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe sy'n trefnu Cystadleuaeth Ffug Lys Genedlaethol Cymru eleni, sef y gystadleuaeth ddadleuwriaeth rhwng Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru.

Mae'r gystadleuaeth yn ei phedwaredd flwyddyn erbyn hyn, a bydd tîm Abertawe yn cystadlu yn erbyn timoedd o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Morgannwg, y Brifysgol Agored, a Phrifysgol Aberystwyth. 

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 23 Mawrth yn Adeilad Richard Price (Ysgol y Gyfraith) gan gychwyn am 11.30pm.  Bydd y rownd derfynol am 5pm, a bydd derbyniad wedyn. 

Roedd buddugoliaeth Abertawe'r llynedd yn drawiadol iawn, yn arbennig o ystyried bod dau aelod o'r tîm yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, heb unrhyw brofiad blaenorol mewn ffug lys cystadleuol. Disgrifiwyd y gystadleuaeth fel 'cystadleuaeth frwd ... ac yn ddiddan iawn i'r rhai oedd yn ei gwylio' gan Caralyn Duignan, o Lexis-Nexis, noddwyr y gystadleuaeth.

Mae Ysgol y Gyfraith wedi ennill bri rhyngwladol am ei ragoriaeth mewn addysg ac ymchwil cyfreithiol. Fe'i rhoddwyd ymhlith ysgolion cyfraith gorau'r byd gan 2012 QS World University Rankings for Law, a ddywedodd fod y Brifysgol yn y grŵp 151-200.

Dywedodd yr Athro John Linarelli, Pennaeth yr Ysgol, "Mae hyn yn gyflawniad sylweddol. Mae Ysgol y Gyfraith yn Abertawe yn ffodus bod nifer o ysgolheigion talentog iawn ar ei staff, a'u bod hefyd yn athrawon rhagorol."

Mae myfyrwyr hefyd â meddwl mawr am Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2012, daeth Abertawe'n 17eg o 96 Ysgol y Gyfraith yn y DU, a chafodd Abertawe'r lefel uchaf o fodlonrwydd myfyrwyr yn gyffredinol. Roedd 94% o fyfyrwyr yn fodlon ar safon y cwrs LLB, a rhoddodd y myfyrwyr farciau arbennig o uchel am safon yr addysgu.

Hefyd, enillodd y Ganolfan Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn Ysgol y Gyfraith Wobr Genedlaethol Rhagoriaeth Addysgu 2012 Cymdeithas Troseddeg Prydain am ei rhaglen israddedig. Mae'r Ganolfan yn ganolbwynt ar gyfer astudio ac addysgu troseddegol o fewn Ysgol y Gyfraith, ac ar gyfer cydweithredu ag adrannau eraill a phrifysgolion eraill.